Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Digwyddiad casineb yw unrhyw ddigwyddiad y mae’r dioddefwr, neu unrhyw un arall, yn teimlo sydd wedi’i seilio ar ragfarn rhywun tuag atynt oherwydd eu hil, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol, anabledd neu oherwydd eu bod yn drawsryweddol.
Rydym yn ailadrodd ein hymrwymiad i fynd i'r afael â'r troseddau yma i wneud Gwent yn lle diogel i bob aelod o'n cymunedau yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb.
Meddai Prif Gwnstabl Dros Dro Mark Hobrough, sydd hefyd yn arweinydd Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu ar droseddau casineb:
“Mae gan bawb hawl i deimlo'n ddiogel yn eu cymunedau, a dyna pam rydym yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau nad oes unrhyw le i gasineb a gwahaniaethu yng Ngwent.
“Rwyf yn falch i gynrychioli a gweithio i'n cymunedau amrywiol ac yn falch o'r gwaith rydym yn ei wneud, bob dydd, i atal troseddau casineb, mynd i'r afael â throseddwyr a meithrin ymddiriedaeth a hyder yn ein holl gymunedau.
“Er bod troseddau casineb yn gallu bod ar sawl ffurf wahanol, o gam-drin corfforol neu eiriol i ysgogi casineb, yr hyn sydd gan bob un ohonynt yn gyffredin yw eu bod yn codi ofn ar eu dioddefwyr.
“Mae hyn yn gwbl annerbyniol ac ni ddylai ddigwydd i unrhyw un.
“Rhaid i ni beidio â goddef gweithredoedd sy'n cael eu hysgogi gan elyniaeth neu ragfarn yn erbyn pobl eraill yn seiliedig ar eu hil neu ethnigrwydd, crefydd neu gred, cyfeiriadedd rhywiol, anabledd, hunaniaeth trawsryweddol, rhywedd neu oedran.
“Fel gwasanaeth heddlu, rydym eisiau i'r cyhoedd fod yn gwbl hyderus, pan fyddant yn riportio'r troseddau yma, y byddwn yn gweithredu'n gyflym i'ch amddiffyn chi rhag gweithredoedd o'r fath ac yn rhoi sicrwydd i chi eich bod yn ddiogel, ac y byddwn yn cynnig y cymorth sydd ei angen arnoch chi".
Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd:
“Rwyf am i'n cymunedau fod yn llefydd lle gall pawb fyw eu bywydau fel nhw eu hunain, yn rhydd rhag ofn a niwed. Rhywle ble mae pawb yn derbyn ei gilydd ac yn trin ei gilydd gyda goddefgarwch a pharch.
“Pan mae ymddygiad y rheini nad ydynt yn rhannu'r gwerthoedd hyn yn troi yn gasineb, mae'n rhaid i ni gymryd camau cadarn a phriodol. Ni all yr heddlu gymryd camau gweithredu oni bai eu bod yn gwybod bod rhywbeth wedi digwydd, felly os ydych chi wedi dioddef trosedd casineb, riportiwch y mater.
“Rwyf yn sefyll mewn undod gyda phob dioddefwr troseddau casineb a thrwy weithio gyda’n gilydd gallwn wneud gwahaniaeth”.
Riportiwch
Os ydych chi'n teimlo eich bod yn dioddef trosedd casineb, rydym eisiau eich sicrhau ein bod eisiau i chi riportio'r mater wrthym ni ac y byddwn yn rhoi cymorth i chi.
Gellir cysylltu â ni ar ein gwefan, ar y cyfryngau cymdeithasol neu drwy ffonio 101. Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob amser.
Gellir riportio'n ddienw hefyd trwy gyfrwng yr elusen annibynnol, Crimestoppers, ar 0800 555 111.
Os, am unrhyw reswm, nad ydych chi eisiau riportio wrth yr heddlu, bydd Stop Hate UK yn sicrhau eich bod yn derbyn y cymorth emosiynol ac ymarferol priodol.
Maent yn cynnig gwasanaeth riportio am ddim, cyfrinachol, sydd ar gael 24/7 i bob dioddefwr trosedd casineb, gan gynnwys riportio mewn gwahanol ieithoedd, trwy gyfrwng ap Stop Hate UK, y llinell ffôn - 0800 138 1625, a thrwy we-sgwrs www.stophateuk.org.