Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Damwain awyren yn Ahmedabad
Mae'r DU yn gweithio gydag awdurdodau lleol yn India i sefydlu'r ffeithiau ar frys a rhoi cefnogaeth i'r rhai dan sylw.
Gwnaeth swyddogion atafaelu gwerth £400,000 o gyffuriau dosbarth A ac arestio pump o bobl mewn cyrchoedd yn gynnar yn y bore ledled Gwent.
Tua 5am fore Mawrth 24 Medi, cynhaliodd swyddogion bum gwarant yng Nghasnewydd, Rhisga, Crosskeys a Chaerdydd.
Yn dilyn y gwarantau, mae pedwar o bobl wedi eu harestio a’u cyhuddo:
Arestiwyd dyn 24 oed o Gasnewydd yn gysylltiedig â’r cyrchoedd hyn a chafodd ei ryddhau dan ymchwiliad wrth i’r ymholiadau barhau.
Gwnaethom hefyd atafaelu swm mawr o arian parod, cyffuriau dosbarth A, cyffuriau dosbarth B, dau feic cwad, cyllell a char.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Michael Preston:
"Gweithgareddau dydd Mawrth yw rhai o'r nifer o ffyrdd yr ydym yn mynd i'r afael â throseddau difrifol a chyfundrefnol.
"Rydym wedi ymrwymo i amddiffyn y rhai sydd mewn perygl o gael eu hecsbloetio a gwneud Gwent yn amgylchedd gelyniaethus i'r rhai sy'n ceisio gwneud niwed.
"Mae'r rhan fwyaf o'n trigolion yn bobl onest, sy’n ufuddhau i'r gyfraith ac yn gweithio'n galed. Maen nhw’n haeddu gallu byw a gweithio mewn cymdogaethau sy'n ddiogel heb fod dan gysgod y rhai sy'n ymwneud â throseddau o'r fath.
"Dylai bob amser fod yn pawb ohonom ni yn y gymuned yn erbyn y troseddwyr hyn, ac felly y mae. Mae gan y cyhoedd rôl bwysig i'w chwarae wrth roi gwybodaeth a all ein cynorthwyo i ddatgymalu llinellau cyffuriau a diogelu unigolion agored i niwed. Byddwn yn annog unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth am ddelio cyffuriau yn y gymuned i roi gwybod i ni, fel y gallwn gymryd camau gweithredu."
Os oes gennych unrhyw wybodaeth, rhowch wybod i ni drwy ein gwefan, anfon neges uniongyrchol atom ar y cyfryngau cymdeithasol, neu ein ffonio ar 101.
Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers ar 0800 555 111.
Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob amser.