Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae swyddog heddlu wedi cael ei benodi i weithio’n agos gyda thrigolion a grwpiau cymunedol mewn tref yn Sir Fynwy.
Mae Cwnstabl Heddlu Dan Graham wedi dechrau ei rôl fel y rheolwr ward cymdogaeth yng Nghil-y-coed.
Cyn hynny roedd Cwnstabl Heddlu Graham yn gweithio fel swyddog ymateb yng Nghas-gwent.
Mae’n edrych ymlaen at amddiffyn a thawelu meddwl trigolion Cil-y-coed.
“Rwy’n bwriadu gweithio’n agos gyda phartneriaid a grwpiau cymunedol yng Nghil-y-coed a’r ardal o gwmpas i roi sylw i bryderon ac ymgysylltu â thrigolion a busnesau,” meddai.
“Gyda’n partneriaid, byddaf yn gweithio’n ddiflino i sicrhau bod Cil-y-coed a’r ardal o gwmpas yn lle mwy diogel i bawb ei fwynhau.”
Bydd Cwnstabl Heddlu Graham yn gweithio o Orsaf Heddlu Cil-y-coed.
“Mae gennym ni dîm gwych yng Nghil-y-coed sy’n cynnwys swyddogion cefnogi cymuned yr heddlu ac mae’r rôl newydd yma’n ddelfrydol i mi; mae’n canolbwyntio ar bobl ac mae’n rhagweithiol,” meddai.
“Yn ogystal â gweithio i ddeall a gwrando ar bryderon trigolion, byddaf yn gweithio gyda’n swyddogion cymdogaeth i roi mesurau ar waith i roi sylw i unrhyw broblemau, gan gynnwys cyffuriau anghyfreithlon ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, sy’n gallu effeithio ar unrhyw gymuned.”
Dywedodd Emma Sowrey, Arolygydd Cymdogaeth Sir Fynwy: “Rwyf wrth fy modd bod Cwnstabl Heddlu Graham wedi dechrau ei rôl newydd yng Nghil-y-coed.
“Mae swyddogion cymdogaeth yn gweithio yn eu cymunedau lleol i leihau trosedd a meithrin partneriaethau cadarnhaol.
“Rwyf yn gwybod y bydd Cwnstabl Heddlu Graham yn mwynhau gweithio gyda thrigolion i lunio darlun clir o’r hyn sy’n digwydd yng Nghil-y-coed a’r ardal o gwmpas.”
Os oes gennych chi unrhyw bryderon am drosedd neu ymddygiad gwrthgymdeithasol yn eich ardal, cysylltwch â ni ar y wefan, drwy ffonio 101, neu drwy anfon neges uniongyrchol atom ni ar Facebook neu X, er mwyn i ni allu gweithredu.
Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers, yn ddienw, ar 0800 555 111 gyda gwybodaeth.