Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ildiwch eich arfau tanio gwag yn ddiogel yn ystod mis Chwefror.
Rhwng 3 a 28 Chwefror, mae pob heddlu yn y Deyrnas Unedig yn cynnal amnest ar gyfer arfau tanio gwag â baril wedi ei rwystro’n llwyr o Dwrci y mae'n awr yn anghyfreithlon i fod yn berchen arnynt.
Ar ôl 28 Chwefror, bydd unrhyw un sydd â TVBF yn eu meddiant yn agored i gael eu herlyn a'u carcharu am hyd at 10 mlynedd.
Beth yw arf tanio gwag â baril wedi ei rwystro’n llwyr o Dwrci (Turkish Top Venting Blank Firer (TVBF)?
Gwn gwag yw TVBF gyda baril wedi ei rwystro'n llwyr ac mae wedi'i ddylunio i saethu cetris gwag yn unig.
Fel arfer maen nhw'n cael eu gwerthu gydag o leiaf 50 y cant o'u harwyneb wedi ei baentio mewn lliw llachar, er, mae llawer o bobl sy'n bwriadu defnyddio'r gwn ar gyfer gweithgareddau troseddol yn eu paentio nhw'n ddu i gyd er mwyn iddynt edrych fel arf tanio go iawn.
Hyd yn awr, mae wedi bod yn gyfreithlon i fod yn berchen ar yr arfau yma, ond mae tystiolaeth yn dangos eu bod yn cael eu cysylltu fwyfwy gyda gweithgareddau troseddol, gan gynnwys bygythion ac ymgeision i wneud iddynt edrych fel gwn llaw go iawn.
Mae'n hawdd troi'r modelau penodol (isod) sydd wedi'u cynnwys yn yr amnest yn arfau tanio, sy'n eu gwneud nhw'n anghyfreithlon o dan y Ddeddf Arfau Tanio 1968.
Pam mae hyn yn bwysig?
Ers 2021, mae asiantaethau gorfodi'r gyfraith y Deyrnas Unedig wedi dod o hyd i fwy na 800 o'r gynnau yma mewn amgylchiadau troseddol ac maen nhw wedi cael eu defnyddio mewn o leiaf pedwar dynladdiad yn ystod y ddwy flynedd diwethaf.
Mae asiantaethau gorfodi’r gyfraith y Deyrnas Unedig wedi nodi bod arfau TVBF yn fygythiad sylweddol i ddiogelwch y cyhoedd - ac mae hynny wedi arwain at fesurau llymach.
Beth sydd angen i mi ei wybod am yr amnest?
Mae'r cyfnod amnest rhwng 3 a 28 Chwefror.
Mae'r amnest yn gyfle i waredu unrhyw arf TVBF yn ddiogel trwy fynd â nhw i orsaf heddlu leol.
Ni fyddwch yn cael eich erlyn am fod yn berchen ar un a gallwch fod yn anhysbys.
Y modelau rydym yn gofyn i bobl eu hildio yw arfau tanio gwag gyda baril wedi ei rwystro'n llwyr a gynhyrchwyd gan unrhyw un o'r canlynol:
Sut a ble ydw i'n gallu ildio fy TVBF?
Gallwch ddod â'ch TVBF i unrhyw un o'r gorsafoedd canlynol:
Er mwyn sicrhau diogelwch pan fyddwch yn cludo eich TVBF:
Os nad ydych chi'n gallu dod i orsaf heddlu, gallwch ffonio 101 gan grybwyll cofnod 207 – 16/1/2025 i gael swyddog i gasglu'r arf tanio o'ch cartref.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â [email protected]
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i.