Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Aeth swyddogion i safle gwrthdrawiad traffig ffyrdd yn Welsh Street, tua 7.30am ddydd Llun 10 Chwefror ac maen nhw’n apelio ar unrhyw un â gwybodaeth neu luniau camera car a all gynorthwyo eu hymholiadau.
Rydyn ni’n apelio am dystion ar ôl gwrthdrawiad traffig ffyrdd ar Welsh Street, Cas-gwent, tua 7.30am ddydd Llun 10 Chwefror.
Aeth swyddogion i’r safle, ynghyd â phersonél o Wasanaeth Ambiwlans Cymru, yn dilyn gwrthdrawiad rhwng lori a cherddwr.
Aethpwyd â’r cerddwr, menyw 51 oed, i’r ysbyty gydag anafiadau sy’n newid bywyd.
Arestiwyd dyn 30 oed o Sedbury ar amheuaeth o yrru dan ddylanwad cyffuriau ac achosi anaf difrifol trwy yrru peryglus. Mae yn y ddalfa ar hyn o bryd.
Mae ymholiadau’n parhau ac rydyn ni’n gofyn i unrhyw un a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad, neu unrhyw fodurwyr a oedd yn teithio ar Welsh Street rhwng 7am a 7.30am ddydd Llun 10 Chwefror, gysylltu â ni.
Gall unrhyw un â gwybodaeth, gan gynnwys lluniau TCCC neu gamera car, gysylltu â ni drwy ffonio 101 neu anfon neges uniongyrchol atom ni ar Facebook neu X gan grybwyll rhif cofnod 2500043760.