Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Allwch chi ein helpu ni i adnabod y dyn yma a allai gynorthwyo ein hymchwiliad?
Mae swyddogion sy’n ymchwilio i adroddiad am dwyll eisiau gwybod pwy yw’r dyn yma (gweler y llun teledu cylch cyfyng), a allai helpu swyddogion gyda’u hymholiadau.
Cawsom adroddiad am dwyll ar ôl i grŵp o bobl gymryd swm sylweddol o arian gan gwpwl yng Nghasnewydd yn ôl pob sôn.
Roedd y grŵp wedi bod yn ffonio’r cwpwl yn aml, yn esgus eu bod yn gweithio i’r heddlu. Gwnaethant ddweud wrth y cwpwl eu bod nhw’n cael eu targedu gan rywun a oedd yn ceisio tynnu arian o’u cyfrif.
Er mwyn helpu’r ymchwiliad a chadw eu harian yn ddiogel, dywedwyd wrthyn nhw am dynnu swm mawr o arian o’u cyfrif, a gafodd ei gasglu wedi hynny.
Rydym eisiau gwybod pwy yw’r dyn yn y llun yn awr. Roedd yn yr ardal ar y pryd ac efallai y bydd yn gallu cynorthwyo ein hymholiadau.
Cafodd ei weld ar Yewberry Lane, Casnewydd, tua 4.50pm ddydd Iau 30 Ionawr.
Roedd yn gwisgo cot ddu gyda’r cwfl dros ei ben, trowsus du ac esgidiau rhedeg du a gwyn. Roedd yn gwisgo mwgwd hefyd.
Os ydych chi’n adnabod y dyn, neu os oes gennych chi unrhyw wybodaeth, cysylltwch â ni ar y wefan, ar y cyfryngau cymdeithasol, neu drwy ffonio 101 gan grybwyll rhif cofnod 2500038276.
Ni fydd yr heddlu byth yn gofyn i chi am arian, cliciwch yma i weld sut i wirio os yw rhywun yn swyddog go iawn.
I gael rhagor o wybodaeth am dwyll, neu i riportio twyll, cliciwch yma.