Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae swyddogion cymdogaeth yng Nghwmbrân wedi arestio dyn 38 oed o Gwmbrân y maen nhw’n amau sy’n gyfrifol am y ‘fandaliaeth ddifeddwl’ a arweiniodd at ddifrodi nifer o flaenau siopau yn gynharach yr wythnos yma.
Tua 2.45am ddydd Llun 10 Chwefror, cawsom adroddiadau bod ffenestri wedi cael eu torri mewn nifer o siopau yng nghanol tref Cwmbrân.
Cyrhaeddodd swyddogion y safle’n gyflym i chwilio’r ardal. Bu’r tîm yn cynnal ymholiadau, ymgysylltu â manwerthwyr lleol, dadansoddi lluniau teledu cylch cyfyng, a chymryd datganiadau gan bobl yn gweithio yn yr ardal.
Meddai Arolygydd Lee Stachow:
“Mae’n ymddangos mai digwyddiad unigol o fandaliaeth ddifeddwl yw hwn, sydd wedi cael effaith negyddol ar nifer o fusnesau, gweithwyr ac ymwelwyr yng Nghwmbrân.
"Ers yr adroddiadau, mae ein tîm cymdogaeth wedi gweithio’n ddiflino i gysylltu â’r holl weithwyr ac ymwelwyr â chanol y dref, i gael hyd i’r hyn ddigwyddodd, ac i sicrhau pobl ein bod ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i ddod o hyd i’r person cyfrifol.
"Ar ôl edrych ar luniau teledu cylch cyfyng a gwneud ymholiadau, rydyn ni wedi arestio dyn 38 oed o Gwmbrân ar amheuaeth o ddifrod troseddol.
"Byddwn yn parhau i gynnal patrolau yn yr ardal ac yn gweithio gyda phartneriaid i wneud popeth y gallwn ni i fynd i’r afael â phobl sy’n achosi difrod troseddol ac yn ymddwyn yn wrthgymdeithasol yn y dref"
Riportiwch eich pryderon wrthym ni drwy ffonio 101, anfon neges atom ni ar ein sianelau cyfryngau cymdeithasol Facebook neu X, neu drwy gyflwyno adroddiad ar ein gwefan.
Ffoniwch 999 bob tro mewn argyfwng.