Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Atafaelodd swyddogion cymdogaeth ddau feic ac arestio dyn ar amheuaeth o drosedd cyflenwi cyffuriau yn ystod ymgyrch dau ddiwrnod yng Nghasnewydd yr wythnos yma.
Bu swyddogion ar batrôl yn Alway, Ringland, Llyswyry a Maendy yn rhan o Ymgyrch Harley, ein hymgyrch i fynd i’r afael â phobl sy’n defnyddio beiciau oddi ar y ffordd yn anghyfreithlon yng Ngwent.
Gwnaethom atafaelu beic modur trydan a oedd yn cael ei yrru heb yswiriant yn Alway, a beic trydan yn Llyswyry roeddem yn amau oedd wedi cael ei ddwyn.
Arestiodd swyddogion ddyn yn Ringland ar amheuaeth o gyflenwi cyffur rheoledig dosbarth A - cocên.
Rhyddhawyd y dyn, a gafodd ei stopio a’i chwilio gan swyddogion, ar fechnïaeth wrth i’n hymholiadau barhau.
Digwyddodd yr ymgyrch ddiweddaraf yma i fynd i’r afael â phobl sy’n gyrru beiciau oddi ar y ffordd yn anghyfreithlon ddydd Mawrth 18 Chwefror a dydd Mercher 19 Chwefror.
Meddai Cwnstabl Heddlu Thomas Gardner, rheolwr ward cymdogaeth Alway:
"Mae ein timau cymdogaeth yn ymwybodol iawn o’r effaith mae defnyddio beiciau oddi ar y ffordd yn anghyfreithlon yn ei chael ar ein cymunedau.
"Rydyn ni’n derbyn cwynion yn aml gan breswylwyr am feiciau trydan a beiciau oddi ar y ffordd yn cael eu gyrru’n anghyfreithlon ar y ffyrdd.
“Byddwn yn parhau i gynnal ymgyrchoedd rheolaidd fel yr un yma yng Nghasnewydd a ledled Gwent.
"Mae angen gwybod ble mae’r beiciau yma’n cael eu defnyddio a’u storio arnom ni er mwyn i ni eu hatafaelu a dod o hyd i’r bobl nad ydyn nhw’n malio dim yn aml am ddefnyddwyr eraill y ffyrdd, cymdogion na cherddwyr."
Os oes gennych chi bryderon am bobl yn gyrru cerbydau oddi ar y ffordd yn anghyfreithlon yn eich ardal, rhowch wybod i ni ar y wefan, drwy ffonio 101 neu drwy anfon neges uniongyrchol atom ni ar y cyfryngau cymdeithasol er mwyn i ni weithredu.
Fel arall, gallwch gysylltu â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111, neu ewch i’w gwefan.