Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Tua 7am, aeth swyddogion i mewn i adeilad ar Gaer Vale Avenue a daethant o hyd i fagiau’n cynnwys cyffuriau dosbarth A, geriach cyffuriau a ffonau symudol. Atafaelwyd y rhain.
Cafodd dyn 18 oed o Gasnewydd ei gadw yn y ddalfa ar amheuaeth o fod â chyffuriau dosbarth A yn ei feddiant gyda’r bwriad o gyflenwi, a bydd yn cael ei gyflweld yn wirfoddol dan rybuddiad yr heddlu.
Meddai Rhingyll Paul Turner:
"Mae swyddogion yn parhau i ddefnyddio gwybodaeth a gasglwyd o waith ymchwilio a gan y cyhoedd i gynllunio a gweithredu gwarantau fel un y bore yma.
"Rydyn ni wedi tynnu cyffuriau dosbarth A, y credir i fod yn grac cocên, oddi ar y strydoedd yn llwyddiannus ac wedi diogelu ein cymunedau rhag niwed.
"Mae’r ymgyrchoedd yma’n bosibl diolch i’r rhan hanfodol mae ein cymunedau’n ei chwarae yn rhoi gwybodaeth i ni, ac yn dweud wrthym ni am eu pryderon am droseddau cyffuriau.
"Mae’r wybodaeth yma, ni waeth pa mor fawr neu fach, yn ein helpu ni i gynllunio ymgyrchoedd i ddwyn troseddwyr o flaen eu gwell."
Os oes gennych chi unrhyw bryderon neu wybodaeth am gyflenwi neu ddelio cyffuriau anghyfreithlon yn eich cymuned, riportiwch y mater ar ein gwefan, drwy ffonio 101 neu drwy anfon neges uniongyrchol atom ni ar y cyfryngau cymdeithasol, er mwyn i ni weithredu.
Fel arall, gallwch gysylltu â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111, neu ewch i’w gwefan.