Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Roedd mis Ionawr yn Fis Cerbydau Masnachol - ymgyrch genedlaethol sy’n rhan o galendr plismona ffyrdd Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu.
Mae ein Huned Cerbydau Masnachol (yr Uned) yn cynnwys swyddogion plismona ffyrdd sydd wedi cael hyfforddiant ychwanegol sy’n eu galluogi nhw i orfodi rheolau sy’n berthnasol i gerbydau masnachol – gallant fod yn unrhyw beth o fan sgrap yn cario gormod o lwyth i gerbydau mawr sy’n cludo deunydd ymbelydrol.
Yn rhan o elfen ymgysylltu Mis Cerbydau Masnachol, aeth y tîm i ymweld â nifer o gwmnïau a sefydliadau mawr a oedd yn peri problemau er mwyn eu dysgu nhw a’u helpu nhw i newid arferion gweithio ar draws eu fflyd gyfan.
Yn sgil y gwaith yma, gofynnwyd i’r tîm siarad yn Stadiwm Principality o flaen y Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau (ROSPA) yn ystod yr wythnosau i ddod.
At ddibenion gorfodi, yn ogystal â’u gwaith o ddydd i ddydd, cynhaliodd yr Uned dri ymgyrch ar y ffyrdd:
Mae gyrru’n anghyfrifol neu gyda llwyth anniogel, cyflawni un o’r 4 Marwol, neu beidio â chadw eich cerbyd mewn cyflwr da yn annerbyniol, ac mae ymgyrchoedd pwrpasol fel yr un yma’n sicrhau bod pobl sy’n diystyru’r gyfraith yn cael eu trin yn unol â hynny.
Os ydych chi’n pryderu am gerbydau nad ydynt yn addas ar gyfer y ffyrdd, cerbydau’n cael eu gyrru’n anghyfreithlon, neu rywun yn gyrru dan ddylanwad, gallwch riportio ar ein gwefan, drwy ffonio 101, neu drwy anfon neges atom ni ar Facebook neu X.
Ffoniwch 999 bob tro mewn argyfwng.