Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
NEWYDDION
Ers hynny mae’r dyn 30 oed o Bontnewynydd wedi cael ei gyhuddo o bum achos o fasnachu pobl ac ymwneud â chyflenwi cyffuriau dosbarth B (canabis).
Mae wedi cael ei remandio i’r ddalfa.
-
Cynhaliodd swyddogion o dimau cymdogaeth, plismona'r ffyrdd a gweithrediadau arbenigol a diogelu Heddlu Gwent warantau mewn naw cyfeiriad yn Nhorfaen yn oriau mân dydd Mercher 26 Chwefror.
Roedd y gwarantau yn rhan o ymchwiliad cymhleth i amheuaeth o gam-fanteisio ar blant ym Mhont-y-pŵl a Chwmbrân.
Arestiwyd 10 o bobl mewn cysylltiad â'r ymchwiliad, gan gynnwys dyn 30 oed o Bontnewydd, menyw 33 oed a dyn 37 oed, y ddau o Bont-y-pŵl, a arestiwyd ar amheuaeth o fasnachu pobl a chyflenwi cyffuriau (dosbarth B - canabis).
Mae'r ddynes 33 oed wedi cael ei chyhuddo o gyflenwi cyffur rheoledig (dosbarth B - canabis), meddiant gyda'r bwriad o gyflenwi cyffuriau dosbarth B (canabis) a chynllwynio i gyflenwi cyffuriau dosbarth B (canabis) ac mae wedi ei chadw yn y ddalfa.
Cafodd y dyn 37 oed ei ryddhau ar fechnïaeth yr heddlu ac mae’r dyn 30 oed yn parhau yn y ddalfa ar hyn o bryd.
Cafodd saith o bobl ifanc rhwng 14 a 18 oed hefyd eu harestio ar amheuaeth o gyflenwi cyffuriau (dosbarth B - canabis), ac ers hynny mae'r saith wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth yr heddlu.
Cafodd yr unfed person ar ddeg, dyn 40 oed, ei arestio ar amheuaeth o ymosod ar weithiwr brys. Ers hynny, mae wedi ei gyhuddo.
Cynhaliodd swyddogion o dimau cymdogaeth, plismona'r ffyrdd a gweithrediadau arbenigol a diogelu Heddlu Gwent warantau mewn naw cyfeiriad yn Nhorfaen yn oriau mân dydd Mercher 26 Chwefror.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Emma Coopey: "Mae gweithrediadau fel hyn heddiw yn cynnwys nifer o asiantaethau, gan gynnwys y Gwasanaethau Cymdeithasol, elusennau annibynnol, addysg a'r Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid. Mae hyn er mwyn darparu dull sy'n canolbwyntio ar blant ac sy'n ystyriol o drawma ac i sicrhau bod gan blant fynediad at wasanaethau cymorth priodol i dorri'r cylch cam-drin.
"Mae'r arestiadau hyn yn hanfodol er mwyn tarfu ar rwydweithiau troseddol. Mae ein cymunedau'n haeddu gallu byw a gweithio mewn cymdogaethau sy'n ddiogel, heb fod dan gysgod y rhai sy'n ymwneud â throseddau o'r fath. Dyna pam y byddwn yn parhau i chwilio am y bobl hyn a datgymalu eu gweithrediadau.
"Os ydych chi'n amau rhywun o gam-fanteisio ar blant neu bobl ifanc, neu'n meddwl bod rhywun rydych chi'n ei adnabod wedi dioddef hyn, neu fe allai hynny ddigwydd yn fuan, rhowch wybod i'r Heddlu. Hyd yn oed os nad ydych 100% yn siŵr, gallai eich gwybodaeth helpu ein staff a’n swyddogion hyfforddedig i amddiffyn plant sydd mewn perygl posibl o niwed."