Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rydyn ni wedi cyhuddo wythfed dyn mewn cysylltiad â’r adroddiadau am anhrefn treisgar yng Nghoed-duon a Threcelyn ddydd Iau 13 Chwefror.
Ymddangosodd dyn 30 oed o ardal Pentwyn-mawr gerbron Llys Ynadon Casnewydd ar ôl iddo gael ei arestio ar amheuaeth o anhrefn treisgar ddydd Mawrth 18 Chwefror.
Cafodd saith o ddynion, rhwng 24 a 30 oed, eu remandio i’r ddalfa ar ôl iddyn nhw ymddangos gerbron yr un llys. Roedd pob un ohonyn nhw wedi’u cyhuddo o anhrefn treisgar.
Meddai Ditectif Arolygydd Elaine Newbury, yr uwch swyddog ymchwilio:
“Mae adroddiadau fel y rhain yn peri pryder i’n cymunedau, ond diolch i weithredoedd cyflym y bobl a riportiodd y digwyddiadau wrthym ni roedden ni’n gallu gweithredu’n gyflym ac yn benderfynol.
“Er bod y digwyddiadau yma’n brin, maen nhw’n ddifrifol iawn ac mae’r arestiadau yma’n dangos nad ydym ni’n fodlon goddef yr ymddygiad yma.
“Ein cysylltiad gyda’n cymunedau sy’n ysgogi ein gwaith i gadw Gwent yn ddiogel, ac rydyn ni’n falch i fod wedi gweithio’n gyflym ac yn ddiwyd er mwyn trigolion Coed-duon a Threcelyn i sicrhau’r cyhuddiadau yn erbyn yr wyth dyn yma.”
Mae ymholiadau ynghylch yr anhrefn treisgar yn parhau ac os oes gennych chi unrhyw wybodaeth a allai helpu, gallwch gysylltu â ni drwy ffonio 101, gan grybwyll y rhif cofnod canlynol: Coed-duon: 2500047958 / Trecelyn: 2500047973.
Gallwch anfon neges uniongyrchol atom ni ar Facebook neu X, neu gallwch riportio ar ein gwefan. Gallwch gysylltu â Crimestoppers hefyd, yn ddienw, ar 0800 555 111.