Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae menter newydd, dan arweiniad Heddlu Gwent, yn rhoi cyngor a thawelwch meddwl i fenywod a merched sy’n rhedeg yn yr awyr agored gyda’r nos.
Yn gweithio ochr yn ochr ag Athletau Cymru, mae Heddlu Gwent wedi siarad yn uniongyrchol â mwy na 100 o aelodau benywaidd o glybiau a grwpiau rhedeg.
Yn rhan o’r fenter Rhedeg yn Fwy Diogel, rydym eisiau gwella hyder benywod sy’n rhedeg yn yr awyr agored yn ystod misoedd y gaeaf.
Rydym hefyd yn annog menywod i gysylltu â ni ar y ffôn, ar-lein neu drwy gyfrwng ein sianelau cyfryngau cymdeithasol, os ydyn nhw’n profi unrhyw aflonyddwch neu ymddygiad bygythiol tra maen nhw allan yn rhedeg.
Rhoddodd Dirprwy Brif Gwnstabl Nicky Brain ei chefnogaeth i’r cynllun yn ystod ymweliad â Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas i gwrdd â Lliswerry Runners ddydd Mercher 29 Ionawr.
“Mae’n bwysig pwysleisio er nad oes unrhyw broblemau wedi cael eu riportio yng Ngwent, y dylai menywod a merched allu mynd i redeg yn yr awyr agored gyda’r nos heb orfod pryderu am eu lles,” meddai Dirprwy Brif Gwnstabl Brain.
“Rydyn ni eisiau helpu i ddileu unrhyw rwystrau trwy gynnig cyngor a chymorth iddyn nhw i sicrhau bod eu diogelwch yn hollbwysig.
“Rydyn ni wedi siarad am ddefnyddio apiau ar ffonau symudol ac oriorau i wneud yn siŵr bod pobl yn teimlo’n fwy diogel.”
Yn ogystal â siarad â Lliswerry Runners, mae Heddlu Gwent hefyd wedi ymweld â RUNNewport, a Chlwb Rhedeg Islwyn yng Nghoed-duon, ac wedi rhoi cyngor i ryw 110 o fenywod hyd yn hyn.
Mae dynion wedi dod i’r sesiynau rhyngweithio yma hefyd, i gefnogi aelodau benywaidd eu clybiau.
Meddai Dirprwy Brif Gwnstabl Brain: “Efallai bod rhai rhedwyr yn amharod i riportio digwyddiadau wrthym ni am eu bod nhw’n ofni y gallan nhw fod yn gwastraffu ein hamser.
“Rwyf eisiau sicrhau pobl y byddwn yn gwrando ar eich pryderon, felly riportiwch nhw, da chi, a byddwn yn ymdrin â nhw yn sensitif ac yn broffesiynol.
“Rydyn ni’n annog menywod i gymryd camau ymarferol, fel aros mewn llefydd gyda digon o olau a rhannu eu cynlluniau gyda phobl maen nhw’n ymddiried ynddyn nhw.
“Byddwn yn parhau i weithio gyda’n cymunedau a phartneriaid i wella mesurau diogelwch a chodi ymwybyddiaeth, gan sicrhau bod pawb yn gallu cyflawni eu gweithgareddau yn ddiogel.”
Gallwch gysylltu â ni drwy ffonio 101, anfon neges uniongyrchol atom ni ar ein sianelau cyfryngau cymdeithasol Facebook neu X, neu drwy riportio ar-lein yma: https://www.gwent.police.uk/ro/report/.
Ffoniwch 999 bob tro mewn argyfwng.