Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Daeth swyddogion ar batrôl rhagweithiol o hyd i gar amheus wedi ei barcio ym Mrynhyfryd, Pontlotyn, Caerffili, ddydd Sul 2 Chwefror tua 10.45pm.
Rhedodd tri dyn i ffwrdd pan aeth ein huned plismona ffyrdd a gweithrediadau arbenigol yn agos at y cerbyd, a oedd yn gysylltiedig â chyflenwi cyffuriau anghyfreithlon.
Fodd bynnag, gyda chymorth gan gi heddlu wedi’i hyfforddi’n arbenigol, daethom o hyd i un o’r dynion heb fod yn bell i ffwrdd.
Stopiodd y swyddogion y dyn a’i chwilio ac yna gwnaethant chwilio’r cerbyd gerllaw, ac atafaelu cocên, canabis, arian, ffôn symudol, clorian a bagiau snap.
Arestiwyd y dyn 28 oed ar amheuaeth o fod â chyffuriau dosbarth A a B yn ei feddiant gyda’r bwriad o gyflenwi.
Yn ddiweddarach, chwiliodd swyddogion gyfeiriad cysylltiedig â’r dyn, ac atafaelu clorian, arian a bagiau snap.
Cafodd ei gyhuddo o ymwneud â chyflenwi cocên, bod â chyffur rheoledig dosbarth A - cocên- yn ei feddiant gyda’r bwriad o gyflenwi, ymwneud â chyflenwi cyffur rheoledig dosbarth B - canabis, a bod â chyffur rheoledig dosbarth B - canabis - yn ei feddiant gyda’r bwriad o gyflenwi.
Ymddangosodd y dyn, o Dredegar, Blaenau Gwent, gerbron Llys Ynadon Casnewydd ddydd Mawrth 4 Chwefror lle cafodd ei remandio i’r ddalfa.