Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ymatebodd swyddogion i adroddiad am anhrefn yn ardal Kingsway, Casnewydd, tua 8pm ddydd Llun 3 Chwefror a oedd yn ymwneud â dau berson ac a welwyd gan grŵp mawr o bobl.
Aethom i’r safle a rhoi gorchymyn gwasgaru ar waith dros nos ar gyfer yr ardal leol, i atal unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol pellach.
Meddai Cwnstabl Heddlu Connie Brown, o Heddlu Gwent:
“Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda’n partneriaid ac asiantaethau i fonitro a lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol yng nghanol dinas Casnewydd.
"Ar ôl edrych dros luniau TCCC a gwneud ymholiadau, rydyn ni’n gwybod pwy yw’r ddau fachgen yn eu harddegau a oedd yn rhan o’r anhrefn yn gynharach yr wythnos yma. Rydyn ni wedi cysylltu â nhw ac mae camau gweithredu’n cael eu cymryd.
"Byddwn yn parhau i gynnal patrolau rheolaidd yn yr ardal ac i weithio gyda’n partneriaid i wneud popeth y gallwn ni i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yng nghanol y ddinas.
"Mae mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn gofyn am fwy na phlismona yn unig.
“Hoffwn ofyn i rieni, gwarcheidwaid a gofalwyr siarad â phobl ifanc yng Nghasnewydd a’u helpu nhw i ddeall bod ymddygiad gwrthgymdeithasol nid yn unig yn cael effaith negyddol ar y bobl o’u cwmpas nhw, ond y gallai troseddau maen nhw’n eu cyflawni gael effaith negyddol ar eu bywydau nhw hefyd yn y dyfodol.
Rhowch wybod i ni am eich pryderon drwy ffonio 101, anfon neges atom ar ein sianelau cyfryngau cymdeithasol Facebook neu X, neu ar ein gwefan.
Ffoniwch 999 bob tro mewn argyfwng.