Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Derbyniodd swyddogion alwad gan aelod o’r cyhoedd yn dweud bod dau feic cwad coch yn rasio dros y comin ac yn “rhwygo llethrau’r mynydd."
Cyn gorffen yr alwad dywedodd y galwr bod y gyrwyr yn gadael yr ardal i gyfeiriad Bargod.
Anfonwyd swyddogion cymdogaeth a swyddogion troseddau cefn gwlad allan. Gwnaethant ddal y beiciau ger Heol Coedcae ym Margod ac atafaelu’r cerbydau oddi ar y ffordd a chyflwyno adroddiadau trosedd traffig (TOR) i’r gyrwyr.
Meddai Rhingyll Tom Brookes:
"Mae dau feic cwad wedi cael eu hatafaelu ar ôl adroddiadau am ddifrodi tir yng Ngelligaer.
"Mae ein tîm wedi ymroi i fynd i’r afael â gyrru oddi ar y ffordd anghyfreithlon, sy’n achosi difrod sylweddol i’r amgylchedd ac yn gallu bod yn niwsans i anifeiliaid a pherchnogion tir. Mae’n gallu rhoi modurwyr a cherddwyr mewn perygl hefyd.
"Mae’r atafaeliadau yma’n dangos pwysigrwydd riportio. Trwy gael disgrifiadau o’r cerbydau a’r gyrwyr, a chael gwybod i ba gyfeiriad roedden nhw’n teithio, rydyn ni wedi gallu gweithredu’n gyflym.
"Yn rhan o batrolau “Parchu Rhymni” y tîm, rydym wedi gosod 10 arwydd newydd yn ddiweddar gyda’r nod o gasglu mwy o wybodaeth am y bobl sy’n difrodi tir lleol trwy yrru cerbydau oddi ar y ffordd yn anghyfreithlon."
Mae’r arwyddion, sy’n dangos cod QR sy’n cyfeirio pobl sy’n riportio at ffurflen hawdd ei defnyddio ar y wefan, yn galluogi’r cyhoedd i roi manylion i ni am yrwyr a’u cerbydau.
Ychwanegodd Rhingyll Brookes:
"Yn ddiweddar rydyn ni wedi gweld achosion o fandaliaeth ddifeddwl yn Rhymni yn ymwneud â cherbydau oddi ar y ffordd, lle mae’r tir wedi cael ei rwygo a safleoedd bws wedi cael eu gorchuddio gan fwd.
"Rwyf eisiau annog unrhyw un sy’n dyst i’r ymddygiad anystyriol a hunanol yma i riportio’r mater wrthym ni, a gallant fod yn sicr y bydd ein tîm yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddod o hyd i’r bobl sy’n gyfrifol, atafaelu eu cerbydau, a’u dwyn nhw i gyfrif."
I gael rhagor o wybodaeth am ymgyrch “Parchu Rhymni” y tîm, ewch i: https://www.gwent.police.uk/police-forces/gwent-police/areas/campaigns/campaigns/2024/respect-rhymney/