Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Gweithredodd y tîm warantau mewn dau gyfeiriad yn ystod oriau mân y bore yma (dydd Mercher 5 Chwefror), ac arestio’r bobl yno a chwilio’r cyfeiriadau.
Yn ystod y gwarantau, daeth swyddogion o hyd i gyffuriau dosbarth A (credir mai cocên oedden nhw), arian, a nifer o ddyfeisiau symudol. Atafaelwyd y rhain.
Arestiwyd dyn 65 oed o Gwmbrân ar amheuaeth o ymwneud â chyflenwi cyffuriau dosbarth A, ac arestiwyd menyw 40 oed o Fairwater, Cwmbrân, ar amheuaeth o fod â chyffuriau dosbarth A yn ei meddiant gyda’r bwriad o gyflenwi.
Maen nhw yn y ddalfa ar hyn o bryd.
Meddai Cwnstabl Heddlu Joseph O'Connor, swyddog yn yr achos:
"O ganlyniad i warantau'r bore yma rydym wedi llwyddo i ddiogelu cymunedau, tynnu cyffuriau dosbarth A oddi ar y strydoedd a chadw dau unigolyn rydyn ni’n amau sydd wedi bod yn cyflenwi cyffuriau anghyfreithlon yng Nghwmbrân yn y ddalfa.
"Mae’r ymgyrchoedd yma’n bosibl diolch i’r rhan hanfodol mae ein cymunedau’n ei chwarae yn rhoi gwybodaeth i ni, ac yn dweud wrthym ni am eu pryderon am droseddau cyffuriau.
"Mae’r wybodaeth yma, ni waeth pa mor fawr neu fach, yn ein helpu ni i greu darlun o gudd-wybodaeth a chynllunio ymgyrchoedd rhagweithiol i ddwyn troseddwyr o flaen eu gwell."
Os oes gennych chi unrhyw bryderon neu wybodaeth am gyflenwi neu ddelio cyffuriau anghyfreithlon yn eich cymuned, riportiwch y mater ar y wefan, drwy ffonio 101, neu drwy anfon neges uniongyrchol atom ni ar y cyfryngau cymdeithasol, er mwyn i ni weithredu.
Fel arall, gallwch gysylltu â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111 gyda gwybodaeth, neu ewch i’w gwefan.