Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Dean Williams, 29 oed, o Abercynon wedi ei garcharu am bron i bum mlynedd ar ôl ei gael yn euog o ymosod yn rhywiol ar ferch ifanc.
Yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Gwener 24 Ionawr dedfrydwyd Williams i bedair blynedd ac wyth mis am weithgaredd rhywiol gyda phlentyn a 22 mis am greu delwedd anweddus o blentyn, a bydd y ddwy ddedfryd yn cydredeg.
Digwyddodd yr ymosodiad mewn parc yng Nghaerffili ym mis Awst 2022 ar ôl i Williams, a oedd yn 26 oed ar y pryd, ychwanegu'r dioddefwr, a oedd yn 13 oed ar y pryd, ar Snapchat.
Dywedodd y Ditectif Ringyll Dros Dro Michael Coles, y swyddog yn yr achos:
"Hoffwn i ddiolch i'r dioddefwr yn yr achos hwn am ddod i roi gwybod i’r heddlu am hyn. Mae hi wedi dangos dewrder a nerth aruthrol drwy gydol yr ymchwiliad a phroses y llys.
"Trwy roi gwybod am hyn, mae hi wedi helpu i roi dyn creulon a pheryglus yn y carchar. Gwnaeth Dean Williams dargedu merch a oedd yn ifanc ac felly’n agored i niwed, ar gyfer ei foddhad rhywiol ei hun ac rydym yn croesawu'r ddedfryd sydd wedi ei orfodi arno.
"Rwy'n gobeithio hefyd y bydd y canlyniad hwn yn dangos i eraill sy’n dioddef trais rhywiol a throseddau rhywiol y bydd rhywun yn gwrando arnynt, ac yn eu credu a'u parchu."
Mae amrywiaeth eang o gymorth ar gael; nid yn unig gan Heddlu Gwent ond gan asiantaethau partner sy'n gallu helpu dioddefwyr a goroeswyr ymosodiad rhywiol drwy'r broses gyfan.
Mae mwy o wybodath ar gael ar wefan Heddlu Gwent: https://www.gwent.police.uk/cy-GB/riportio/riportio/riportiwch/alpha-v1/cyngor/treisio-ymosod-rhywiol-a-throseddau-rhywiol-eraill/cymorth-treisio-ymosodiadau-rhywiol
Cafodd Dean Williams ddedfryd o bedair blynedd ac wyth mis a bydd yn aros ar y gofrestr troseddwyr rhyw am gyfnod amhenodol.