Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Bydd dau fachgen yn ymddangos gerbron llys ieuenctid ym mis Chwefror ar ôl cael eu cyhuddo mewn cysylltiad â lladrad car yn Ystrad Mynach fis Medi diwethaf.
Galwyd swyddogion ar ôl i gar - Volvo XC90 - gael ei gymryd o gyfeiriad yn Stryd Lewis ddydd Llun 30 Medi tua 6pm.
Cawsom wybod wedyn am wrthdrawiad traffig ffyrdd yng Ngelligaer, a oedd yn ymwneud â chwech o gerbydau, ar yr un diwrnod.
Ymysg y cerbydau a oedd yn rhan o’r gwrthdrawiad roedd Volvo XC90, fan Ford Transit, Ford Focus a Volkswagen Beetle yn ogystal â dau gar wedi parcio – BMW 525D a Volvo XC40.
Arestiwyd bachgen 15 oed o ardal Gelligaer ar amheuaeth o gymryd cerbyd gwaethygol.
Yn ddiweddarach arestiwyd bachgen o Gil-y-coed, a oedd yn 14 oed ar y pryd, ar amheuaeth o gymryd cerbyd gwaethygol a gwneud difrod o £5,000 neu fwy i gerbyd.
Cafodd ei arestio hefyd ar amheuaeth o yrru cerbyd modur yn beryglus, gyrru cerbyd modur mewn ffordd nad yw’n unol â thrwydded, defnyddio cerbyd modur ar y ffordd neu mewn man cyhoeddus heb yswiriant trydydd parti.
Cyhuddwyd y ddau fachgen o’r troseddau yma a chawsant eu rhyddhau ar fechnïaeth amodol.
Byddant yn ymddangos gerbron Llys Ieuenctid Cwmbrân ddydd Mawrth 4 Chwefror.