Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Lynebwy, y gwnaeth ei gi ymosod yn ffyrnig ar ferch 12 oed yn Nant-y-glo gan achosi anafiadau a oedd angen triniaeth yn yr ysbyty, wedi cael dedfryd o dair blynedd yn y carchar.
Ymddangosodd Justin Allison, 38, gerbron Llys y Goron Casnewydd ddydd Mercher 29 Ionawr ar ôl pledio’n euog yn flaenorol i fod â chi o frid wedi’i wahardd heb drwydded yn ei feddiant, a bod yn gyfrifol am gi peryglus ac allan o reolaeth mewn man cyhoeddus.
Cyfaddefodd hefyd i gyhuddiad o fod ag arf ymosodol yn ei feddiant mewn man preifat.
Fis Hydref diwethaf, galwyd swyddogion i gyfeiriad yn The Crescent, Nant-y-glo, yn dilyn adroddiadau am ymosodiad gan gi ar blentyn.
Atafaelwyd y ci a chafodd ei ddifa heb ddioddef gan filfeddyg. Yn ddiweddarach cafodd ei adnabod fel XL bully – brid sydd wedi ei wahardd. Nid oedd Allison wedi cofrestru’r ci chwaith.
Meddai Ditectif Brif Arolygydd Virginia Davies, yr uwch swyddog ymchwilio:
“Methodd Allison â chadw ei gi o dan reolaeth ac ymosodwyd yn ffyrnig ar ferch, gan achosi anafiadau difrifol.
“Hoffem ddymuno’r gorau iddi hi gyda’i hadferiad yn dilyn yr ymosodiad yma.
"Dylai’r achos hwn atgoffa pawb sy’n berchen ar gi o bwysigrwydd cadw eich ci dan reolaeth trwy’r amser.
"Rydyn ni’n ystyried adroddiadau am berchnogaeth anghyfrifol ar gŵn yn ddifrifol iawn a gofynnwn yn daer ar bawb i ddilyn y ddeddfwriaeth a’r canllawiau er mwyn atal digwyddiadau fel yr un yma rhag digwydd yn y dyfodol.”
Carcharwyd Allison am dair blynedd a chafodd ei wahardd rhag bod yn berchen ar gŵn am 10 mlynedd.
Gallwch riportio perchnogion cŵn anghyfrifol ar ein gwefan, trwy anfon neges uniongyrchol atom ni ar y cyfryngau cymdeithasol neu drwy ffonio 101.
Ffoniwch 999 bob tro mewn argyfwng.