Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Defnyddiodd swyddogion wedi’u hyfforddi’n arbenigol rym i fynd i mewn i’r eiddo tua 7 dydd Gwener 17 Ionawr cyn chwilio’r adeilad yn drylwyr.
Yn ystod y cyrch, daethant o hyd i gyffuriau dosbarth A a B, arfau, arian, ffôn symudol a geriach cyffuriau. Cafodd y rhain eu hatafaelu.
Meddai Arolygydd Lysha Thompson:
"Mae ein tîm gorfodi yn y gymdogaeth ym Margod wedi llwyddo i dynnu cyffuriau dosbarth A oddi ar ein strydoedd ar ôl chwilio tŷ y bore yma.
"Gwnaethom arestio dyn 44 oed o Fargod ar amheuaeth o fod â chyffuriau dosbarth A yn ei feddiant gyda’r bwriad o gyflenwi, a bod ag arf ymosodol yn ei feddiant mewn man cyhoeddus.
"Mae’n cael ei holi yn y ddalfa ar hyn o bryd.
"Byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i gasglu gwybodaeth am y rheini sy’n bwriadu llenwi ein trefi gyda chyffuriau anghyfreithlon niweidiol, a gweithredu gwarantau fel un y bore yma i atafaelu eiddo anghyfreithlon ac amddiffyn y cyhoedd."
Os oes gennych chi unrhyw bryderon neu wybodaeth am gyflenwi cyffuriau anghyfreithlon yn eich cymuned, gofynnwn i chi roi gwybod i ni drwy fynd ar y wefan, ffonio 101, neu anfon neges uniongyrchol atom ni ar Facebook neu X, er mwyn i ni weithredu.
Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111 gyda gwybodaeth.