Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae aelodau o grŵp troseddau trefnedig a ddeliodd bron i dri chilogram o gocên mewn llai na naw mis wedi derbyn dedfryd gyfunol o 21 mlynedd yn y carchar.
Cyfaddefodd Jamie Webber, 35, Michael Cornwall, 43, Nabeela Kaid, 36, a Alexa Cronin, 42 i gynllwynio i gyflenwi’r cyffur rheoledig dosbarth A pan wnaethant ymddangos gerbron Llys y Goron Caerdydd ddydd Gwener 17 Ionawr.
Oherwydd salwch ei fargyfreithiwr, bydd dyn 35 oed, a oedd hefyd wedi cyfaddef i gynllwynio i gyflenwi’r cyffur rheoledig Dosbarth A - cocên, yn cael ei ddedfrydu ddydd Gwener 24 Ionawr.
Yn ystod Ymgyrch Biggin, gweithredodd swyddogion o’r uned troseddau difrifol a threfnedig warantau mewn nifer o gyfeiriadau yng Nghasnewydd, gan atafaelu 15 ffôn symudol.
Dangosodd dadansoddiad o’r dyfeisiau yma mai Webber a’r dyn 35 oed oedd arweinwyr y grŵp a’u bod yn gyfrifol am reoli’r llinell cyffuriau. Roedd Cornwall, Cronin a menyw 24 oed yn gweithredu fel rhedwyr, yn gwerthu cocên yn uniongyrchol i ddefnyddwyr, yng Nghasnewydd, Cwmbrân a Phont-y-pŵl yn bennaf, ac roedd Nabeela Kaid yn ymwneud â gwerthu’r cyffuriau hefyd.
Meddai Ditectif Brif Arolygydd Matthew Edwards, o Heddlu Gwent:
“Hoffwn ddiolch i bawb a chwaraeodd ran yn Ymgyrch Biggin, ymchwiliad hir a thrwyadl. Trwy waith manwl iawn ein dadansoddwyr data a’n timau fforensig digidol gwnaethom lwyddo i ddatgelu digonedd o dystiolaeth i ddwyn y diffynyddion yma gerbron y llysoedd.
"Mae cyffuriau anghyfreithlon yn llenwi ein cymunedau gyda gofid, dioddefaint ac ofn ac mae’r rhai sy’n cymryd mantais o’r bobl agored i niwed yn ein cymdeithas yn cael eu gyrru gan elw; dydyn nhw ddim yn malio o gwbl am y boen maen nhw’n ei achosi."
“Rydyn ni’n croesawu unrhyw wybodaeth a all helpu i ddwyn pobl fel y rhain o flaen eu gwell a gwneud gwahaniaeth i’n cymunedau.”
Carcharwyd Webber am 10 mlynedd a phedwar mis – saith mlynedd a phedwar mis am y drosedd yma, a thair blynedd am drosedd arall o gyflenwi cyffuriau dosbarth A .
Carcharwyd Cornwall am bum mlynedd, Nabeela Kaid am dair blynedd a phedwar mis, a Cronin am 28 mis.
Derbyniodd y fenyw 24 oed ddedfryd ohiriedig.
Os oes gennych chi unrhyw bryderon neu wybodaeth am gyflenwi neu ddelio cyffuriau anghyfreithlon yn eich cymuned, rhowch wybod i ni drwy fynd ar y wefan, ffonio 101, neu anfon neges uniongyrchol atom ni ar y cyfryngau cymdeithasol, er mwyn i ni weithredu.
Fel arall, gallwch gysylltu â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111 gyda gwybodaeth neu ewch i’w gwefan.
Jamie Webber
Michael Cornwall
Nabeela Kaid
Alexa Cronin