Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn rhan o’r ymgyrch Nadolig, rhwng dechrau Rhagfyr a Dydd Calan cynhaliodd swyddogion wiriadau o gerbydau a phatrolau seiliedig ar gudd-wybodaeth mewn mannau lle mae gyrru dan ddylanwad yn broblem.
Arestiodd swyddogion 108 o bobl yn ystod yr ymgyrch a barhaodd gydol y mis.
Arestiwyd 45 o bobl ar amheuaeth o droseddau gyrru dan ddylanwad diod, 64 o bobl ar amheuaeth o gyflawni troseddau gyrru dan ddylanwad cyffuriau, a chwech o bobl ar amheuaeth o fod dan ddylanwad alcohol a chyffuriau.
Meddai Arolygydd Leighton Healan, o’r uned Plismona Ffyrdd a Gweithrediadau Arbenigol:
“Mae llawer gormod o bobl o hyd sy’n fodlon rhoi eu bywydau eu hunain a phobl eraill mewn perygl trwy fynd tu ôl i’r llyw ar ôl yfed alcohol neu gymryd cyffuriau.
“Does dim esgus drosto a byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i amddiffyn pobl rhag canlyniadau dinistriol a pharhaol ymddygiad mor hunanol ac anghyfrifol.
“Mae gyrru dan ddylanwad yn cael effaith sylweddol ar eich gallu i yrru. Efallai eich bod chi’n teimlo’n iawn, efallai eich bod chi’n edrych yn iawn, ond gallech chi fod dros y terfyn cyfreithiol a bod y rheswm pam fod rhywun yn cael ei ladd.
“Mae ein neges yn glir - gwnewch y penderfyniad iawn; peidiwch byth â mynd tu ôl i’r llyw dan ddylanwad alcohol na chyffuriau.”
Yn rhan o’r ymgyrch, arweiniodd Heddlu Gwent nifer o weithrediadau i wella diogelwch ar y ffyrdd trwy roi sylw i’r pedwar prif reswm dros wrthdrawiadau - gyrru dan ddylanwad diod neu gyffuriau, defnyddio ffôn symudol, goryrru a pheidio â gwisgo gwregys diogelwch.
Ydych chi’n pryderu bod rhywun yn gyrru dan ddylanwad?
Bydd unrhyw un sy’n cael ei ddal yn cyflawni trosedd gyrru ac yn rhoi eu hun a phobl eraill mewn perygl yn wynebu camau gweithredu.
Os gwelwch chi rywun yn gyrru’n beryglus, riportiwch y mater ar ein gwefan, ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol, neu ffoniwch 101.
Yn 2023, derbyniodd Crimestoppers fwy na 45,000 o adroddiadau dienw am bobl sy’n gyrru’n rheolaidd dan ddylanwad alcohol a/neu gyffuriau.
Os oes well gennych chi riportio’n ddienw, gallwch eu ffonio nhw ar 0800 555 111 neu ewch i https://crimestoppers-uk.org/.
Gallwch gyflwyno tystiolaeth o yrru gwrthgymdeithasol, defnydd o ffonau symudol neu yrru peryglus trwy gyfrwng Ymgyrch Snap GanBwyll.
Darllenwch fwy yma.