Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu Gwent yn ymchwilio i ladrad a nifer o ymgeisiau i fyrglera sydd wedi cael eu riportio yn ardal Henllys, Cwmbrân.
Rydyn ni’n rhannu lluniau cloch drws Ring yn y gobaith y bydd yn rhoi proc i gof rhywun ac yn helpu ein hymchwiliad.
Cafwyd ymgais i fyrglera mewn pum cyfeiriad gwahanol yn Pant yr Heol Close a Laburnam Drive rhwng tua 4.10am a 4.30am ddydd Gwener 6 Rhagfyr 2024.
Tua 4.40am cafod lladrad ei riportio ar Henllys Way hefyd.
Cafodd gyrrwr Nissan Qashqai coch, a oedd wedi stopio wrth ymyl conau traffig, ei fygwth ac ymosodwyd arno. Dihangodd y troseddwr yng nghar y dioddefwr, a gafodd ei ddarganfod yn hwyrach wedi ei adael yn Perthy Close gerllaw.
Derbyniodd y dioddefwr anaf bach i’w law.
Yn ôl y disgrifiad roedd y person dan amheuaeth yn ddyn gwyn, tua 5’11” o daldra, roedd yn fain, ac yn ei ugeiniau hwyr neu ei dridegau cynnar. Roedd yn gwisgo siaced ‘puffer’ lliw tywyll gyda llewys hir a chwfl, ac roedd ganddo fwgwd yn cuddio ei wyneb hyd at ei lygaid.
Mae’r disgrifiad yma’n cyd-fynd â’r disgrifiad o’r person dan amheuaeth yn yr ymgeisiau i fyrglera hefyd.
Rydyn ni wedi dilyn amryw o lwybrau ymchwilio ond hyd yma nid ydym yn gwybod pwy yw’r person dan amheuaeth.
Gofynnir i unrhyw yn ag unrhyw wybodaeth ffonio 101, gan grybwyll 2400403634, anfon neges uniongyrchol at yr heddlu ar y cyfryngau cymdeithasol, neu ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.