Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Gweithredodd swyddogion o dîm plismona cymdogaeth Torfaen ddwy warant ar yr un pryd y bore yma’n rhan o ymchwiliad parhaus i gyflenwi cyffuriau.
Defnyddiodd swyddogion wedi’u hyfforddi’n arbennig rym i fynd i mewn i ddau adeilad yn Sebastopol, Pont-y-pŵl, tua 5am.
Ar ôl chwilio’r adeiladau’n ofalus, gwnaethom arestio dau o bobl - dyn 33 oed o Bont-y-pŵl ar amheuaeth o fod â chyffuriau dosbarth A a B yn ei feddiant gyda’r bwriad o gyflenwi, a dyn 56 oed ar amheuaeth o ymwneud â chyflenwi cyffuriau dosbarth A a C - a gwnaethom atafaelu cyffuriau, ffonau symudol a mwy.
Meddai Cwnstabl Heddlu Tasmin O’Connell, swyddog yn yr achos:
“Mae swyddogion wedi cadw dau ddyn o Bont-y-pŵl yn y ddalfa yn dilyn gwarantau mewn dau gyfeiriad yn Sebastopol y bore yma.
“Rydyn ni wedi tynnu cyffuriau oddi ar y strydoedd, ac mae ein hymchwiliad i gyflenwi cyffuriau yn yr ardal yn parhau.
“Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i dargedu pobl rydyn ni’n amau sy’n elwa ar gyflenwi cyffuriau anghyfreithlon, a byddwn yn gweithredu yn sgil unrhyw wybodaeth a gawn ni gan y cyhoedd er mwyn diogelu’r cyhoedd rhag troseddau difrifol.”
Os oes gennych chi unrhyw bryderon neu wybodaeth am gyflenwi cyffuriau anghyfreithlon yn eich cymuned, gofynnwn i chi roi gwybod i ni drwy fynd ar y wefan, ffonio 101 neu drwy anfon neges uniongyrchol atom ni ar Facebook neu X, er mwyn i ni allu gweithredu.
Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111 gyda gwybodaeth.