Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae swyddogion sy'n ymchwilio i wrthdrawiad marwol yn Church Street, Blaenau yn apelio am dystion.
Cawsom adroddiad am y gwrthdrawiad tua 11.10am ddydd Sadwrn 18 Ionawr ac aeth swyddogion a pharafeddygon i'r safle.
Roedd y gwrthdrawiad rhwng cerddwr a fan. Yn anffodus, bu farw'r cerddwr, menyw 65 oed o Blaenau, yn y fan a'r lle.
Mae ei theulu agosaf wedi cael gwybod ac maen nhw'n cael cymorth gan swyddogion arbenigol.
Mae gyrrwr y fan, dyn 31 oed o Blaenau, yn helpu swyddogion gyda'u hymholiadau.
Mae swyddogion sy'n ymchwilio i'r gwrthdrawiad eisiau siarad ag unrhyw un a oedd yn teithio ar hyd Church Street neu a oedd yn yr ardal rhwng 10.50am a 11.15am ddydd Sadwrn 18 Ionawr.
Gofynnir i unrhyw un â gwybodaeth, gan gynnwys lluniau camera car neu deledu camera cylch cyfyng (TCCC), gysylltu â ni drwy ffonio 101, anfon neges uniongyrchol ar y cyfryngau cymdeithasol, neu ar ein gwefan, gan grybwyll rhif cofnod 2500018177.
Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111 neu gallwch roi gwybodaeth ar eu gwefan.