Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Defnyddiodd swyddogion cymdogaeth yng Nghasnewydd luniau drôn i gael beic trydan Sur-Ron yn ei ôl yn ardal Ringland yn y ddinas.
Yr wythnos ddiwethaf, helpodd drôn ein swyddogion i ddod o hyd i leoliad y beic ac yn ddiweddarach gwnaethant ei atafaelu am gael ei yrru heb yswiriant.
Mae Ymgyrch Harley yn ymdrin ag achosion o ddefnyddio beiciau oddi ar y ffordd yn anghyfreithlon yng Ngwent.
Yn ystod ymgyrchoedd diweddar yng Nghasnewydd, gwnaethom atafaelu dau feic Sur-Ron, ac adfer beic y credwyd oedd wedi cael ei ddwyn. Gwnaethom erlyn gyrrwr Sur-Ron am droseddau gyrru, ac arestio dyn ar amheuaeth o fod â chyffuriau rheoledig yn ei feddiant gyda’r bwriad o gyflenwi.
Meddai Cwnstabl Heddlu Thomas Gardner, rheolwr ward cymdogaeth Ringland:
"Mae Heddlu Gwent yn ymwybodol iawn o’r effaith mae defnyddio beiciau oddi ar y ffordd yn anghyfreithlon yn gallu ei chael ar ein cymunedau.
“Byddwn yn parhau i gynnal ymgyrchoedd rheolaidd fel hyn yng Nghasnewydd a ledled Gwent.
"Rydyn ni angen gwybod ble mae’r beiciau yma’n cael eu defnyddio a’u cadw er mwyn i ni allu atafaelu’r peiriannau sy’n cael eu gyrru’n anghyfreithlon."
Os oes gennych chi unrhyw bryderon am bobl yn gyrru oddi ar y ffordd yn anghyfreithlon yn eich ardal, riportiwch y mater ar y wefan, ffoniwch 101, neu anfonwch neges uniongyrchol atom ni ar ein tudalennau Facebook neu X, er mwyn i ni weithredu.
Fel arall, gallwch gysylltu â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111 gyda gwybodaeth.