Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae swyddogion eisiau siarad ag unrhyw un a oedd yn teithio ar Cwmbrân Drive, Cwmbrân, rhwng 1.30pm a 2.15pm dydd Sul 16 Mawrth.
Rydyn ni’n apelio am wybodaeth ar ôl cael adroddiad am wrthdrawiad traffig ffyrdd ar Cwmbrân Drive, Cwmbrân, tua 1.50pm dydd Sul 16 Mawrth.
Aeth swyddogion i’r safle, ynghyd â Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Ambiwlans Awyr Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.
Beic modur oedd yr unig gerbyd yn y gwrthdrawiad.
Cadarnhaodd parafeddygon bod gyrrwr y beic modur, dyn 25 oed, wedi marw yn y fan a’r lle.
Mae ei deulu wedi cael gwybod ac maen nhw’n derbyn cymorth gan swyddogion arbenigol.
Rydyn ni’n gofyn i unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu sydd â lluniau camera car neu deledu cylch cyfyng perthnasol, ar Cwmbrân Drive, Cwmbrân, rhwng 1.30pm a 2.15pm ddydd Sul, gysylltu â ni.
Gallwch gysylltu â ni ar ein gwefan, drwy ffonio 101 neu drwy anfon neges uniongyrchol atom ni ar ein tudalennau Facebook neu X, gan grybwyll rhif cofnod 2500083512.
Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111 gyda gwybodaeth.