Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Hoffem siarad ag unrhyw un a oedd yn Lidl, neu ym maes parcio Lidl, Rhisga, ddydd Mawrth 4 Chwefror.
Rydym yn apelio am dystion ar ôl derbyn adroddiadau am ladrad ac ymosodiad yn Lidl ac ym maes parcio Lidl tua 5pm ddydd Mawrth 4 Chwefror.
Honnwyd bod dau ddyn a menyw wedi gadael y siop gydag eitemau nad oeddent wedi talu amdanynt, a phan y’u heriwyd fe wnaethon nhw adael mewn cerbyd, gan wthio aelodau staff allan o'r ffordd.
Aeth swyddogion yno a chafodd dynes ei thrin am fân anafiadau.
Cafodd dyn 49 oed ei arestio ar amheuaeth o ladrata, gyrru’n beryglus ac ymosod drwy guro, cafodd dyn 30 oed hefyd ei arestio ar amheuaeth o ladrata ac ymosod. Mae bellach wedi ei ryddhau ar fechnïaeth amodol.
Mae swyddogion sy’n ymchwilio bellach yn gofyn am eich help - rydym am glywed gennych os wnaethoch weld y digwyddiad, neu os oeddech yn yr ardal ar y pryd a bod gennych luniau teledu cylch cyfyng neu dashcam.
Gallwch ein ffonio ar 101, rhoi gwybod drwy ein gwefan neu anfon neges uniongyrchol atom ar y cyfryngau cymdeithasol, gan ddyfynnu'r cyfeirnod 2500037608.