Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Arolygydd Chris Hopkin wedi canmol agosatrwydd a natur agored a chefnogol y gymuned yn dilyn wythnos o waith gan yr heddlu i “gryfhau’r gwelliannau a welwyd yn y dref yn yr wythnosau diweddar”.
Cyn Ffair y Gwanwyn Coed-duon ddydd Sadwrn 8 Mawrth, cynhaliodd ei dîm plismona cymdogaeth gyfres o gymorthfeydd yr heddlu a sesiynau ymgysylltu i siarad â thrigolion am y gwaith rydyn ni wedi ei wneud yn y misoedd diwethaf i roi sylw i adroddiadau am ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Yn ôl ym mis Ionawr, bu cynnydd yn nifer y galwadau ynghylch anhrefn o gwmpas Market Square a’r orsaf bysys, gan gymell swyddogion i ddefnyddio dull pwrpasol i fynd i’r afael â’r broblem.
Roedd hyn yn cynnwys mwy o batrolau, defnyddio hysbysiadau gwasgaru a gwaith gorfodi i dargedu’r rheini a oedd yn gyfrifol.
Yn ystod yr ymgyrch, arestiodd swyddogion ferch 17 oed o’r ardal a’i chyhuddo o nifer o droseddau, gan gynnwys torri hysbysiad gwarchod y gymuned.
Ers hynny, fodd bynnag, mae’r Arolygydd Plismona Cymdogaeth ar gyfer yr ardal yn dweud bod pethau wedi gwella.
Meddai Arolygydd Hopkin: “Ym mis Ionawr, cawsom ryw 40 adroddiad yn ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol neu ddifrod troseddol cysylltiedig, sy’n gwbl annerbyniol.
“Mae’r cyhoedd yn gwybod y gallai’r ymddygiad difeddwl yma achosi oedi i’n swyddogion wrth iddyn nhw geisio cyrraedd galwadau brys lle mae pobl agored i niwed angen help, a bod pobl sy’n ymddwyn yn afreolus yn gallu ein rhwystro ni rhag cyrraedd y digwyddiadau yma’n gyflym.
“Fodd bynnag, mae’r tîm wedi mynd i’r afael â’r broblem yn effeithiol, ac mae adroddiadau wedi gostwng i ryw bedwar galwad yn ystod y pythefnos diwethaf.
“Yn ystod y cyfnod yn arwain at y ffair y penwythnos diwethaf, gwnaethom drefnu nifer o sesiynau ymgysylltu yn y dref i ddiweddaru’r cyhoedd am y gwaith yma, a hefyd i siarad â thrigolion am unrhyw bryderon sydd ganddyn nhw, neu wybodaeth sydd ganddyn nhw am drosedd yn yr ardal.”
Mewn digwyddiad ar wahân yn y dref, derbyniodd swyddogion adroddiad am anhrefn treisgar brynhawn Iau 13 Chwefror.
Ychwanegodd Arolygydd Hopkin: “Er bod digwyddiadau treisgar fel hynny’n brin iawn yn yr ardal, rwyf yn gobeithio bod pobl wedi cael tawelwch meddwl o weld bod y swyddogion wedi cyrraedd y safle mor gyflym ac wedi arestio’r rheini roedden ni’n credu oedd yn gyfrifol.
“Yn ystod yr wythnos ddiwethaf rydyn ni wedi gweithio gyda phartneriaid i gynnal cyfres o warantau a chwiliadau hefyd.
“Ddydd Gwener 7 Mawrth, gwnaethom roi cymorth i dîm Safonau Masnachu Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, a oedd yn chwilio eiddo masnachol yr oedden nhw’n amau oedd yn gwerthu fêps a thybaco anghyfreithlon.
“Ar y diwrnod, atafaelodd y tîm 168 o fêps nad oeddent yn cydymffurfio â’r gyfraith, 3,580 o sigaréts, a 33 pwrs 50g o dybaco y credir oedd yn ffug. Mae ymchwiliadau’n parhau.”
“Yn ogystal, cynhaliodd swyddogion Safonau Masnachu brofion gwerthu dan oed yn yr ardal a chawsant eu calonogi bod pob gwerthwr wedi gwrthod gwerthu’r fêps i’r gwirfoddolwyr ifanc, gan ofyn am ddogfennau adnabod bob tro.”
Dywedodd y Cynghorydd Philippa Leonard, aelod cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili dros Gynllunio a Diogelu’r Cyhoedd: “Mae masnachu tybaco a fêps anghyfreithlon yn gysylltiedig â throsedd trefnedig ac mae’n niweidiol i’n hiechyd, yn arbennig iechyd pobl ifanc.
“Mae tynnu'r rhain oddi ar y stryd yn ganlyniad go iawn. Nid yn unig mae’r fasnach yn rhoi arian ym mhocedi troseddwyr, mae hefyd yn niweidio ein cymunedau lleol a busnesau cyfreithlon.
“Hoffwn ddiolch i’r tîm safonau masnachu a Heddlu Gwent am gymryd y cynhyrchion peryglus yma oddi ar y silffoedd.”
Os oes gennych chi bryderon am drosedd neu ymddygiad gwrthgymdeithasol yn eich ardal, riportiwch y mater wrthym ni ar y wefan, drwy ffonio 101, neu drwy anfon neges atom ni ar y cyfryngau cymdeithasol er mwyn i ni weithredu.
Fel arall, gallwch gysylltu â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111, neu ar eu gwefan.