Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Dedfrydwyd Dennis Williams, 41, o Gaerffili i dair blynedd a phedwar mis yn y carchar ar ôl i swyddogion ddod o hyd i werth miloedd o bunnau o ganabis ac amffetamin yn ei gartref.
Plediodd Williams yn euog i ddau gyhuddiad o fod â chyffur dosbarth B (canabis ac amffetamin) yn ei feddiant gyda’r bwriad o gyflenwi, dau gyhuddiad o ymwneud â chyflenwi cyffur dosbarth A (cocên) ac ymwneud â chyflenwi cyffur dosbarth B (amffetamin).
Dedfrydwyd Williams i 40 mis yn y carchar yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Iau 27 Chwefror.
Meddai Cwnstabl Heddlu Callum Evans, y swyddog yn yr achos: “Daethpwyd o hyd i werth miloedd o bunnau o ganabis ac amffetamin yng nghartref Williams, ynghyd â ffôn gyda negeseuon a oedd yn ei gysylltu â chyflenwi cocên.
“Mae’r cyffuriau yma’n achosi gofid a dinistr yn ein cymunedau, ac mae’n deg bod Williams wedi cael ei garcharu am ei ran yn cyflenwi cyffuriau.
“Byddwn yn parhau i weithredu yn sgil unrhyw wybodaeth rydyn ni’n ei derbyn gan y cyhoedd am droseddau cyffuriau yng Ngwent, ac rydyn ni’n gobeithio bod y ddedfryd yma’n rhoi tawelwch meddwl i’r gymuned leol.”
Plediodd Dennis Williams yn euog i ymwneud â chyflenwi cocên, cyfaddefodd i fod â chyffuriau dosbarth B yn ei feddiant gyda’r bwriad o gyflenwi, a chafodd ei garcharu am 40 mis.