Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu Gwent wedi cyhuddo dyn 20 oed o sawl trosedd, gan gynnwys ymgais i lofruddio, yn rhan o'n hymholiadau i ymosodiad yng Nghasnewydd ddydd Sadwrn 1 Mawrth.
Cafodd y dyn o Gasnewydd ei gyhuddo o droseddau eraill gan gynnwys, difrod troseddol, ymwneud â chyflenwi cyffuriau dosbarth A a meddu ar arf troseddol mewn man preifat.
Cafodd ei remandio i’r ddalfa a bydd yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Casnewydd ddydd Sadwrn 8 Mawrth.
Yn gynharach heddiw (dydd Gwener 7 Mawrth) ymddangosodd bachgen 17 oed gerbron Llys Ynadon Casnewydd wedi’i gyhuddo o ymgais i lofruddio.
Cafodd y bachgen o Gasnewydd ei gyhuddo o droseddau eraill hefyd gan gynnwys difrod troseddol, ymwneud â chyflenwi cocên, cyflawni gweithred/cyfres o weithredoedd gyda'r bwriad o wyrdroi cwrs cyfiawnder cyhoeddus, a meddu ar lafn cyllell/eitem finiog mewn man cyhoeddus.
Cafodd ei remandio i’r ddalfa.
Cafodd dyn 19 oed ei ryddhau ar fechnïaeth amodol wrth i ymholiadau barhau, a chafodd ail ddyn 19 oed ei ryddhau heb unrhyw gamau pellach.
Cafodd dyn 36 oed, a anafwyd yn yr ymosodiad ar Caerleon Road tua 12.55am ddydd Sadwrn, ei ryddhau o'r ysbyty.
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Philip O'Connell o Heddlu Gwent:
"Hoffem glywed o hyd gan unrhyw un a allai fod â manylion a allai helpu ein hymchwiliad yn dilyn yr arestiadau hyn a’r penderfyniad cyhuddo.
“Hoffwn atgoffa pawb y gallai dyfalu ynghylch y rhai dan sylw ein hatal rhag dwyn y rhai sy'n gyfrifol gerbron y llysoedd, a sut y gallai sylwadau, yn enwedig y rhai hynny ar-lein, effeithio ar yr ymchwiliad byw hwn.”
Gall unrhyw un a welodd yr ymosodiad tua 12.55am ddydd Sadwrn 1 Mawrth neu sydd â gwybodaeth, gan gynnwys lluniau camerâu cylch cyfyng neu gamera car perthnasol, ein ffonio ni ar 101 neu gysylltu â ni drwy ein gwefan neu ar y cyfryngau cymdeithasol, gan grybwyll rhif cofnod 2500065856.
Gallwch ffonio Crimestoppers hefyd, yn ddienw, gyda gwybodaeth ar 0800 555 111.