Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Gellir dweud bellach mai enw'r dyn a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad traffig ffordd ar Cwmbrân Drive, Cwmbrân, tua 1.50pm ddydd Sul 16 Mawrth yw Jordan Thomas o Gwmbrân.
Aeth swyddogion i wrthdrawiad traffig ffordd a oedd yn cynnwys beic modur, ar Cwmbran Drive, Cwmbrân, tua 1.50pm ddydd Sul 16 Mawrth.
Cyhoeddwyd bod y dyn 25 oed o Gwmbrân, a oedd ar y beic modur, wedi marw yn y fan a'r lle.
Gellir dweud bellach mai ei enw yw Jordan Thomas.
Mae ei deulu wedi cyhoeddi'r deyrnged ganlynol iddo:
"Ddydd Sul 16 Mawrth newidiodd ein bywydau am byth pan wnaethom golli ein mab prydferth, Jordan Thomas.
"Roedd pawb a oedd yn ei adnabod yn ei garu. Roedd Jordan yn frawd, ewythr, dyweddi a ffrind annwyl a fydd pawb yn ei golli.
"Rydyn ni fel teulu wedi ein llethu gan y gefnogaeth a ddangoswyd a'r geiriau caredig lawer sydd wedi'u rhannu gan bobl a oedd yn adnabod ein bachgen annwyl, Jordan.
"Yn ystod y cyfnod anodd iawn hwn, rydym yn gofyn yn garedig am amser i brosesu a galaru'r hyn sydd wedi digwydd i'n bachgen hyfryd, Jordan Thomas."
Mae ei berthnasau agosaf yn parhau i dderbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.
Rydym yn gofyn i unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu sydd â lluniau dashcam neu deledu cylch cyfyng perthnasol, ar Cwmbrân Drive, ddydd Sul rhwng 1.30pm a 2.15pm, gysylltu â ni.
Gallwch gysylltu â ni trwy ein gwefan, ffonio 101 neu anfon neges uniongyrchol atom ar ein tudalennau Facebook neu X, gan ddyfynnu cyfeirnod log 2500083512.
Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers, yn ddienw, ar 0800 555 111 gyda gwybodaeth.