Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rydym wedi cyhuddo tri dyn o ymddygiad bygythiol ac ysgogi trais yn dilyn adroddiadau o ymgynnull yn Nhredegar Newydd ddydd Llun 3 Mawrth.
Aeth swyddogion yno i gynorthwyo gyda diogelwch y cyhoedd pan gafwyd adroddiadau o greigiau a cherrig yn cael eu taflu at gyfeiriad.
Cafodd dau ddyn o Fargoed, 34 a 31 oed, a dyn o Dredegar Newydd, 43 oed, eu cyhuddo o ddefnyddio geiriau neu ymddygiad bygythiol, camdriniol neu sarhaus gyda'r bwriad o achosi ofn neu ysgogi trais anghyfreithlon ar ôl iddyn nhw gael eu harestio yn y fan a'r lle.
Fe wnaethon nhw ymddangos yn Llys Ynadon Casnewydd ddydd Mercher 5 Mawrth ac fe'u rhyddhawyd ar fechnïaeth/cadwyd yn y ddalfa (delete as appropriate).
Dywedodd yr Uwch-arolygydd John Davies:
"Byddwn bob amser yn cydbwyso hawl y cyhoedd i ymgynnull neu brotestio â diogelwch y cyhoedd oherwydd ein gwaith ni yw diogelu'r cyhoedd a chadw'r heddwch, nid plismona safbwyntiau unrhyw un.
"Fodd bynnag, roedd peth o'r ymddygiad a arddangoswyd gan y rhai a oedd yn y cyfarfod hwn yn annerbyniol ac fe'i cynlluniwyd i gythruddo ac roedd yn elyniaethus ei natur, ac roedd yn peryglu pobl yn yr ardal, gan gynnwys swyddogion a'r gymuned.
"Mae swyddogion wedi gweithredu'n gymesur i wasgaru'r dorf, ac fe gafodd tri pherson eu harestio a'u cyhuddo wedi hynny o ganlyniad."