Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Damwain awyren yn Ahmedabad
Mae'r DU yn gweithio gydag awdurdodau lleol yn India i sefydlu'r ffeithiau ar frys a rhoi cefnogaeth i'r rhai dan sylw.
Mae Heddlu Gwent wedi cyhuddo dyn 37 oed o Lundain mewn cysylltiad ag adroddiad am fyrgleriaeth ym Mhengam.
Galwyd swyddogion i Fair View yn dilyn adroddiad bod wedi mynd i mewn i gyfeiriad tua 1.45am ddydd Mawrth 20 Mai.
Yn ôl y sôn ymosodwyd ar ddyn yn yr eiddo ac aeth i’r ysbyty’n ddiweddarach i gael triniaeth. Mae wedi cael ei ryddhau ers hynny.
Gwelodd swyddogion Audi du, y credir oedd wedi cael ei ddefnyddio gan y dynion cysylltiedig â’r fyrgleriaeth, yn teithio tuag at yr M4, a chafodd y car ei ddilyn gan Heddlu Avon a Gwlad yr Haf ar ôl gadael ardal Gwent.
Yn ddiweddarach roedd y car mewn gwrthdrawiad gyda Nissan Juke, tua 2.50am ger cyffordd 17 yr M4 yn Wiltshire, a chafodd dyn 37 oed ei arestio ar amheuaeth o fyrgleriaeth waethygedig, gyrru peryglus a bod ag arfau tanio yn ei feddiant.
Cafodd ei gyhuddo o yrru cerbyd modur yn beryglus, bod ag arf tanio yn ei feddiant a rhodio â chyfarpar byrglera a chafodd ei remandio i ymddangos gerbron Llys Ynadon Casnewydd ddydd Iau 22 Mai.
Cafodd ei ryddhau dan ymchwiliad am fygythiadau i ladd a byrgleriaeth waethygedig fwriadol ac mae ymholiadau’n parhau.
Meddai Ditectif Uwch-arolygydd Steven Maloney, yr uwch-swyddog ymchwilio:
“Mae ein hymchwiliad i’r materion yma’n parhau ac rydyn ni’n awyddus iawn i wybod pwy oedd y ddau ddyn arall a oedd yn ymwneud â’r fyrgleriaeth yn gynharach yr wythnos hon.
“Os ydych chi’n gwybod pwy ydyn nhw, gofynnaf yn daer arnoch chi i gysylltu â ni er mwyn i ni gymryd camau fel rydyn ni wedi eu cymryd hyd yn hyn gyda’r arést a’r penderfyniad i gyhuddo.
“Rydyn ni’n deall bod y gwrthdrawiad a ddilynodd y fyrgleriaeth wedi cael effaith sylweddol ar lawer o fodurwyr, felly rwy’n ddiolchgar i’r cyhoedd am eu hamynedd a’u dealltwriaeth tra’r oedd swyddogion yn cynnal eu hymholiadau.”
Gofynnir i unrhyw un â gwybodaeth a allai gynorthwyo ein hymchwiliad ffonio 101, cysylltu â ni ar ein gwefan neu anfon neges uniongyrchol atom ni ar y cyfryngau cymdeithasol, gan grybwyll rhif cofnod 2500158756.
Gallwch gysylltu â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111, neu ar eu gwefan, gydag unrhyw wybodaeth.