Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Oni bai bod trosedd wedi’i chyflawni neu fod rhywun mewn perygl ar y pryd, nid yw’r heddlu’n debygol o ymyrryd mewn anghydfodau sifil. Fodd bynnag, fe rown ni chi mewn cysylltiad â’r grwpiau a’r sefydliadau all helpu. Cwblhewch y frawddeg isod i gael y cyngor sydd ei angen arnoch i ddatrys eich anghydfod mor gyflym a chyfeillgar â phosibl.
Rydw i’n cael anghydfod gyda siop neu werthwr ynglŷn â thâl gwasanaeth neu atgyweirio
Mae’n syniad da bob amser i gytuno ymlaen llaw ar bris ar gyfer gwaith atgyweirio. Fodd bynnag, os yw’r gwaith eisoes wedi’i wneud a’ch bod yn anghytuno ynglŷn â’r pris, mae hwn yn anghydfod sifil.
Mae gennych hawl i dderbyn gwasanaeth sydd wedi’i ddarparu gyda gofal a sgil rhesymol, o fewn amser rhesymol ac am bris rhesymol.
Os ydych chi’n teimlo bod y pris yn rhy uchel, y peth cyntaf i’w wneud yw cael amcanbris ysgrifenedig annibynnol o’r hyn y byddai rhywun arall wedi’i godi i wneud y gwaith.
Os ydych yn dal i deimlo bod y pris yn rhy uchel, ffoniwch:
Darperir y wybodaeth hon diolch i Ask the Police.