Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Oni bai bod trosedd wedi’i chyflawni neu fod rhywun mewn perygl ar y pryd, nid yw’r heddlu’n debygol o ymyrryd mewn anghydfodau sifil. Fodd bynnag, fe rown ni chi mewn cysylltiad â’r grwpiau a’r sefydliadau all helpu. Cwblhewch y frawddeg isod i gael y cyngor sydd ei angen arnoch i ddatrys eich anghydfod mor gyflym a chyfeillgar â phosibl.
Rydw i’n cael anghydfod gyda chyn bartner neu briod ynglŷn â chasglu fy eiddo
Os ydych yn casglu eich eitemau o eiddo cyn bartner, ond yn poeni am eich diogelwch, mae angen i chi fod yn ofalus.
Rydym yn eich cynghori chi a’ch cyn bartner i gytuno i gyfarfod mewn man niwtral er mwyn casglu eich eitemau - neu gallwch drefnu bod ffrind(iau) yn eu casglu ar eich rhan.
Sylwer, os nad yw eich cyn bartner yn cytuno â’r hyn rydych wedi’i awgrymu, byddem yn eich cynghori i beidio â’i gyfarfod/chyfarfod. Mewn achos o’r fath rydym yn argymell cysylltu â chyfreithiwr neu Cyngor ar Bopeth i siarad am yr opsiynau sydd ar gael i chi.
Darperir y wybodaeth hon mewn partneriaeth ag Ask the Police.