Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn amrywio o ymddygiad ymosodol, swnllyd neu gamdriniol i aflonyddwch yn y gymdogaeth yn ymwneud â chyffuriau neu anifeiliaid, mae sawl ffurf ar ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Os ydych chi wedi bod yn dyst i ymddygiad gwrthgymdeithasol, riportiwch hynny wrthym.
Bydd ein hystafell reoli yn delio ag adroddiadau yn union yr un ffordd boed eich bod yn ei riportio ar-lein neu’n ffonio 101.
Delio â galwyr digymell digroeso
Diolch.
Nid yw ymweliadau dirybudd i’ch cartref gan bobl sy’n gwerthu nwyddau neu wasanaethau (a elwir weithiau’n ymweliadau neu alwadau digymell) yn anghyfreithlon, ond gallwch atal yr unigolion hyn drwy roi sticer neu nodyn ar eich drws yn dweud nad ydych yn dymuno cael ymweliadau digymell.
Os ydych yn cael galwadau ffôn nad ydych am eu derbyn, rydym yn argymell eich bod yn cysylltu â’ch cwmni ffôn. Dylai allu awgrymu nifer o ffyrdd i sgrinio a rhwystro galwadau sy’n cael eu derbyn. Efallai y byddwch hefyd am ystyried cofrestru gyda’r Gwasanaeth Dewis Galwadau Ffôn.
Os bydd y galwadau neu’r ymweliadau’n parhau, y cam nesaf fyddai cysylltu â chwmni’r unigolyn dan sylw i gwyno.
Os nad yw hyn yn ei atal, cysylltwch â’ch swyddfa Safonau Masnach leol neu Cyngor ar Bopeth ar 03454 04 05 06. Gallant roi rhagor o gymorth a chefnogaeth i chi.