Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn amrywio o ymddygiad ymosodol, swnllyd neu gamdriniol i aflonyddwch yn y gymdogaeth yn ymwneud â chyffuriau neu anifeiliaid, mae sawl ffurf ar ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Os ydych chi wedi bod yn dyst i ymddygiad gwrthgymdeithasol, riportiwch hynny wrthym.
Bydd ein hystafell reoli yn delio ag adroddiadau yn union yr un ffordd boed eich bod yn ei riportio ar-lein neu’n ffonio 101.
Mae’r anifail yn beryglus, yn ymddwyn yn ffyrnig neu’n fygythiol tuag ataf i neu rywrai eraill ar hyn o bryd
Os ydych wedi gweld anifail ffyrnig neu fygythiol, a’ch bod yn teimlo ei fod ar fin niweidio aelod o’r cyhoedd neu anifail arall, ffoniwch 999 nawr.
Gwnewch yn siŵr bod y manylion canlynol wrth law gennych, os yn bosibl: