Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn amrywio o ymddygiad ymosodol, swnllyd neu gamdriniol i aflonyddwch yn y gymdogaeth yn ymwneud â chyffuriau neu anifeiliaid, mae sawl ffurf ar ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Os ydych chi wedi bod yn dyst i ymddygiad gwrthgymdeithasol, riportiwch hynny wrthym.
Bydd ein hystafell reoli yn delio ag adroddiadau yn union yr un ffordd boed eich bod yn ei riportio ar-lein neu’n ffonio 101.
Riportio anifail sydd wedi achosi anaf i rywun
Diolch.
Cliciwch 'Dechrau' isod i lenwi ein ffurflen sydyn a syml ar-lein. Rhowch gymaint o wybodaeth ag y gallwch chi.
Byddwn ni’n asesu eich adroddiad, yn cofnodi’r digwyddiad ac yn penderfynu ar y camau gorau i'w cymryd. Fel arfer, dim ond os bydd angen rhagor o fanylion arnom ni y gwnawn ni gysylltu â chi.
Mewn rhai achosion, fe wnawn ni roi gwybod i'ch tîm plismona lleol sy’n delio ag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Efallai y byddan nhw’n dymuno cysylltu â chi i drafod ymhellach.
Bydd modd llwytho copi o’ch adroddiad i lawr at eich cofnodion eich hun.
Amser cwblhau arferol: 5 i 10 munud
Gwnewch yn siŵr bod y manylion canlynol gennych chi, os yw'n bosibl:
Dechrau