Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn amrywio o ymddygiad ymosodol, swnllyd neu gamdriniol i aflonyddwch yn y gymdogaeth yn ymwneud â chyffuriau neu anifeiliaid, mae sawl ffurf ar ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Os ydych chi wedi bod yn dyst i ymddygiad gwrthgymdeithasol, riportiwch hynny wrthym.
Bydd ein hystafell reoli yn delio ag adroddiadau yn union yr un ffordd boed eich bod yn ei riportio ar-lein neu’n ffonio 101.
Riportio cerbyd sy’n fy atal rhag symud fy ngherbyd
Diolch.
Byddem bob amser yn argymell cael gair cwrtais gyda’r gyrrwr yn gyntaf, oherwydd efallai fod camddealltwriaeth.
Fodd bynnag, os nad yw’r gyrrwr ar gael a bod cerbyd yn eich atal rhag symud eich cerbyd o’ch dreif, cysylltwch â ni.
Cliciwch 'Dechrau' isod i lenwi ein ffurflen sydyn a syml ar-lein. Rhowch gymaint o wybodaeth ag y gallwch chi.
Byddwn ni’n asesu eich adroddiad, yn cofnodi’r digwyddiad ac yn penderfynu ar y camau gorau i'w cymryd.
Bydd modd llwytho copi o’ch adroddiad i lawr at eich cofnodion eich hun.
Amser cwblhau arferol: 5 i 10 munud
Gwnewch yn siŵr bod y manylion canlynol gennych chi, os yw'n bosibl:
Dechrau