Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Atebwch y cwestiynau hyn i ddysgu â phwy y dylech chi gysylltu os oes gennych wybodaeth am dwyll, llwgrwobrwyo neu lygredd posibl, neu os ydych chi'n credu eich bod wedi dioddef sgam neu dwyll.
Os ydych chi'n poeni y gallai rhywun weld eich hanes gwe, dyma wybodaeth am sut i guddio'r ymweliad hwn.
Riportio llwgrwobrwyo neu lygredd yn y gwaith (chwythu'r chwiban)
Mae riportio llwgrwobrwyo neu lygredd yn y gwaith yn cael ei adnabod fel chwythu'r chwiban.
Mae chwythwyr chwiban yn cael eu hamddiffyn gan y gyfraith - ddylech chi ddim cael eich trin yn annheg na cholli'ch swydd dim ond am eich bod wedi 'chwythu'r chwiban'.
Canllaw Llywodraeth y Deyrnas Unedig i weithwyr ar chwythu'r chwiban
Gallwch godi'ch pryder gyda'ch cyflogwr. Os nad ydych am wneud hynny, gallwch ddweud wrth rywun o fewn y corff neu'r swyddfa sy'n ymdrin â'ch sector neu'ch problem chi. Yr enw ar y rhain yw 'pobl a chyrff rhagnodedig'.
Er enghraifft, gallech ddweud wrth Awdurdod Atal Twyll y GIG am dwyll, llwgrwobrwyo neu lygredd yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru a Lloegr.
Rhestr o bobl a chyrff rhagnodedig ar gyfer chwythwyr chwiban
Fe allwch chi ddweud hefyd:
Mae'r elusen Protect yn cefnogi chwythwyr chwiban.
Maen nhw'n cynnig cyngor cyfrinachol am ddim ynghylch chwythu'r chwiban ar 020 3117 2520.