Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Os ydych chi wedi colli neu ddod o hyd i eiddo mewn man cyhoeddus, efallai y gallwn helpu. Atebwch y cwestiynau isod i weld beth yw’r peth gorau i’w wneud nesaf.
Mae’r eitem rydw i wedi dod o hyd iddi mewn man cyhoeddus yn werthfawr
Gwnewch ymholiadau rhesymol i ddod o hyd i’r perchennog, gallai’r rhain gynnwys holi pobl gerllaw neu mewn swyddfeydd neu siopau lleol. Gallech hefyd ystyried gadael nodyn gyda’ch manylion arno.
Os na allwch ddod o hyd i’r perchennog, ewch â’r eitem i orsaf heddlu leol neu rhowch hi i swyddog heddlu neu SCCH.