Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Os ydych chi wedi colli neu ddod o hyd i eiddo mewn man cyhoeddus, efallai y gallwn helpu. Atebwch y cwestiynau isod i weld beth yw’r peth gorau i’w wneud nesaf.
Mae gan yr eitem rydw i wedi’i cholli mewn man cyhoeddus fy enw/cyfeiriad arni a gellir ei chysylltu’n uniongyrchol â mi
Ar gyfer pasbortau neu drwyddedau gyrru y DU, riportio am y golled wrth y Swyddfa Basbort neu’r DVLA.
Yn achos pasbortau, cardiau adnabod a thrwyddedau gyrru tramor, riportiwch y golled i’ch llysgenhadaeth neu’ch uchel gomisiwn.
Ar gyfer cardiau banc neu ddogfennau swyddogol eraill, megis tystysgrifau geni a chyfriflenni banc, adroddwch am y golled wrth y swyddfa a’u rhoddodd.
Os rhoddir yr eitem i ni fe wnawn ein gorau i gysylltu â chi.