Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Os ydych chi wedi colli neu ddod o hyd i eiddo mewn man cyhoeddus, efallai y gallwn helpu. Atebwch y cwestiynau isod i weld beth yw’r peth gorau i’w wneud nesaf.
Mae gan yr eitem rydw i wedi’i cholli mewn man cyhoeddus rif cyfresol
Ar gyfer ffonau symudol, chwaraewyr MP3, cyfrifiaduron neu unrhyw offer sydd â rhif cyfresol, riportio am y golled yn immobilise.com.
Ar gyfer beiciau, riportio am y golled yn bikeregister.com.
Mae heddluoedd a chwmnïau yswiriant ledled y wlad yn chwilio drwy adroddiadau ar y ddwy wefan.
Gallwch hefyd ddefnyddio Report my loss. Nid gwasanaeth gan yr heddlu yw hwn ac mae'n codi £4.95 am gofnodi rhywbeth sydd wedi’i golli, ond mae'r gwasanaeth yn gallu cael ei chwilio gan heddluoedd ledled y wlad a chwmnïau yswiriant.