Riportio am berson sydd ar goll
Os ydych chi’n credu bod ffrind neu aelod o’ch teulu wedi mynd ar goll, neu os oes gennych wybodaeth am berson sydd ar goll, gallwch gael gwybod sut i gysylltu â ni yma.
Offeryn cyngor
Riportio am berson ar goll sydd mewn perygl ar hyn o bryd
Diolch. Ffoniwch 999 ar unwaith.
Gwnewch yn siŵr bod y wybodaeth ganlynol wrth law, os yn bosibl:
- y dyddiad a’r amser y gwelwyd y person ddiwethaf, a phwy welodd ef neu hi
- beth oedd y person yn ei wisgo pan welwyd ef neu hi ddiwethaf
- disgrifiad o’r person, megis taldra, lliw, marciau neu greithiau
- cyfeiriad y person
- unrhyw deulu, ffrindiau neu fannau y mae’n eu mynychu’n aml
- a oes gan y person ddefnydd car? Os oes, gwnewch yn siŵr bod y rhif cofrestru gennych, os yn bosibl
- dulliau trafnidiaeth eraill (a oes gan y person gerdyn bws neu drên?)
- unrhyw ymholiadau a wnaed i geisio canfod lle mae’r person
- unrhyw nodweddion bregus sydd gan y person, megis anghenion meddygol neu anabledd?
- pam ydych chi’n meddwl bod y person mewn perygl ar hyn o bryd
- dyddiad geni’r person
- rhif ffôn a manylion unrhyw gyfrifon cyfryngau cymdeithasol y person
Hyd yn oed os nad ydych yn siŵr, byddai’n well gennym glywed gennych a gwneud y penderfyniad ein hunain.