Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Os ydych chi wedi bod yn gysylltiedig â digwyddiad traffig ffyrdd, neu'n credu y gallech fod wedi bod yn dyst i drosedd ar y ffyrdd, dysgwch sut i riportio’r peth drwy ddefnyddio’n hadnodd ar-lein syml. Atebwch y cwestiynau cyflym isod i sicrhau ein bod yn rhoi'r cyngor cywir ichi ac yn casglu'r holl fanylion perthnasol.
Riportio amodau ffyrdd sy'n achosi perygl uniongyrchol
Os oes risg o berygl ar unwaith, dyna argyfwng ac mae angen ichi ffonio 999 nawr.
Os ydych chi'n fyddar neu'n drwm eich clyw, defnyddiwch ein gwasanaeth ffôn testun ar 18000 neu anfonwch neges destun ar 999 os ydych chi wedi cofrestru ymlaen llaw gyda’r gwasanaeth SMS argyfwng.