Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Os ydych chi wedi bod yn gysylltiedig â digwyddiad traffig ffyrdd, neu'n credu y gallech fod wedi bod yn dyst i drosedd ar y ffyrdd, dysgwch sut i riportio’r peth drwy ddefnyddio’n hadnodd ar-lein syml. Atebwch y cwestiynau cyflym isod i sicrhau ein bod yn rhoi'r cyngor cywir ichi ac yn casglu'r holl fanylion perthnasol.
Riportio digwyddiad traffig ffyrdd a throsedd bosib heb dystiolaeth
Diolch. Os ydych wedi cyfnewid manylion gyda’r bobl oedd yn gysylltiedig â’r digwyddiad, nid oes angen i chi ddweud wrth yr heddlu. Gweler y Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988, Adran 170 am fanylion pellach.
Serch hynny, os ydych yn credu bod trosedd wedi’i chyflawni a arweiniodd at y digwyddiad, gallwch ei riportio fan hyn.
Gallwch ei riportio:
Gwnewch yn siŵr bod y manylion canlynol ar gael, os yn bosibl:
Byddwn yn adolygu beth rydych chi wedi'i anfon atom ac yn asesu os gallwn gymryd unrhyw gamau.
Sylwer, gan nad oes unrhyw dystiolaeth o’r digwyddiad, ni allwn erlyn unrhyw un am drosedd yrru. Serch hynny, os derbyniwn unrhyw wybodaeth newydd efallai y byddwn yn cysylltu ac yn ymchwilio ymhellach i'ch adroddiad.
Ar ôl i chi gyflwyno adroddiad ar y wefan hon, byddwch yn gallu lawrlwytho copi ohono. Dyma fydd yr adroddiad gwrthdrawiad. Byddwch yn gallu anfon yr adroddiad hwnnw at eich cwmni yswiriant neu gyfreithiwr.
Amser cwblhau ar gyfartaledd: 10 munud.
Pan fyddwch chi'n barod, cliciwch 'Dechrau' i gychwyn.
Dechrau