Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Os ydych chi wedi bod yn gysylltiedig â digwyddiad traffig ffyrdd, neu'n credu y gallech fod wedi bod yn dyst i drosedd ar y ffyrdd, dysgwch sut i riportio’r peth drwy ddefnyddio’n hadnodd ar-lein syml. Atebwch y cwestiynau cyflym isod i sicrhau ein bod yn rhoi'r cyngor cywir ichi ac yn casglu'r holl fanylion perthnasol.
Riportio digwyddiad traffig ffyrdd a welwyd gan dyst annibynnol
Diolch am gysylltu. Os oeddech yn gysylltiedig â gwrthdrawiad fel gyrrwr neu feiciwr, yn y rhan fwyaf o amgylchiadau, mae’r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i chi stopio a chyfnewid manylion.
Os nad ydych wedi gwneud hynny am ryw reswm, mae’r rhaid i chi riportio’r mater i’r heddlu cyn gynted â phosibl, ac mewn unrhyw achos, o fewn 24 awr i’r gwrthdrawiad.
Gweler y Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988, Adran 170 am fanylion pellach.
Gallwch ei riportio:
Gwnewch yn siŵr bod y manylion canlynol ar gael, os yn bosibl:
Tystion annibynnol
Rhaid i dyst annibynnol fod yn berson sydd wedi gweld y digwyddiad ond sydd heb gysylltiad o gwbl â'r digwyddiad neu unrhyw un sy'n gysylltiedig â’r digwyddiad.
Byddwn yn adolygu beth rydych wedi'i anfon atom ac yn asesu os gallwn gymryd unrhyw gamau.
Os na fyddwn wedi cysylltu â chi o fewn chwe wythnos, ni fyddwn yn gallu cymryd unrhyw gamau.
Ar ôl i chi gyflwyno adroddiad ar y wefan hon, byddwch yn gallu lawrlwytho copi ohono. Dyma fydd yr adroddiad gwrthdrawiad. Byddwch yn gallu anfon yr adroddiad hwnnw at eich cwmni yswiriant neu gyfreithiwr.
Amser cwblhau ar gyfartaledd: 20 munud.
Pan fyddwch chi'n barod, cliciwch 'Dechrau' i gychwyn.
Dechrau