Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Os ydych chi wedi bod yn gysylltiedig â digwyddiad traffig ffyrdd, neu'n credu y gallech fod wedi bod yn dyst i drosedd ar y ffyrdd, dysgwch sut i riportio’r peth drwy ddefnyddio’n hadnodd ar-lein syml. Atebwch y cwestiynau cyflym isod i sicrhau ein bod yn rhoi'r cyngor cywir ichi ac yn casglu'r holl fanylion perthnasol.
Riportio digwyddiad traffig ffyrdd heb dystiolaeth
Diolch. Os oeddech yn gysylltiedig â digwyddiad fel gyrrwr neu feiciwr, mae’n rhaid i chi riportio’r digwyddiad i’r heddlu yn bersonol cyn gynted â phosibl ac, mewn unrhyw achos, o fewn 24 awr i’r digwyddiad. Ni all unrhyw un arall wneud hyn i chi.
Gweler y Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988, Adran 170 am fanylion pellach.
Gallwch ei riportio:
Gwnewch yn siŵr bod y manylion canlynol ar gael, os yn bosibl:
Byddwn yn adolygu'r hyn rydych wedi'i anfon atom ac yn asesu os gallwn gymryd unrhyw gamau.
Sylwer, gan nad oes unrhyw dystiolaeth o’r digwyddiad, ni allwn erlyn unrhyw un am drosedd yrru. Serch hynny, os derbyniwn unrhyw wybodaeth newydd, efallai y byddwn yn cysylltu ac yn ymchwilio ymhellach i'ch adroddiad.
Ar ôl i chi gyflwyno adroddiad ar y wefan hon, byddwch yn gallu lawrlwytho copi ohono. Dyma fydd yr adroddiad gwrthdrawiad. Byddwch yn gallu anfon yr adroddiad hwnnw at eich cwmni yswiriant neu gyfreithiwr.
Amser cwblhau ar gyfartaledd: 10 munud.
Pan fyddwch chi'n barod, cliciwch 'Dechrau' i gychwyn.
Dechrau